Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ymgyrch Calan Gaeaf a Tân Gwyllt

Postiwyd

Gyda dathliadau Calan Gaeaf a Thân Gwyllt ar y gorwel, mae Heddlu ogledd Cymru a'u partneriaid yn dod at ei gilydd unwaith eto er mwyn gofyn i bobl 'fynd i ysbryd y noson' gydag ymgyrch B.A.N.G.

Mae gan Heddlu Gogledd Cymru gyfrifoldeb i gadw cymunedau'n ddiogel a
thrwy weithio gyda phartneriaid eraill gan gynnwys y Gwasanaeth Tân ac Achub,
Partneriaid Diogelwch Cymunedol ac awdurdodau lleol, rydym yn gallu hyrwyddo negeseuon arwyddocaol drwy'r fenter 'cadwch ysbryd Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt'. Mae wedi cael ei brofi bod y ffordd hon o weithredu, ynghyd â threfnu gweithgareddau dargyfeiriol sy'n cael pobl ifanc i gymryd rhan mewn
digwyddiadau hwyliog, yn gallu bod yn ffordd effeithiol o sicrhau bod pawb yn
gallu mwynhau eu hunain yn ddiogel.


Mae ein swyddogion a'n partneriaid wedi trefnu amrywiaeth o weithgareddau Nos Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt ledled Gogledd Cymru er mwyn ymgysylltu â phobl ifanc. Mae'r gweithgareddau hyn wedi cael eu hariannu gyda chefnogaeth gan y tîm Lleihau Llosgi Bwriadol, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned (PACT).

Mae posteri - gan gynnwys un sydd yn gofyn i alwyr cast neu geiniog beidio â galw - yn cael eu dosbarthu i drigolion gan Dimau Plismona'r Gymdogaeth ledled ardal yr Heddlu.

Mae'r posteri yma hefyd ar gael i'w lawrlwytho oddi ar wefan yr heddlu (www.heddlu-gogledd-cymru.police.uk) ac ar gael drwy'r cownteri blaen yn y gorsafoedd canlynol: Wrecsam, Rhyl, Bae Colwyn, Llandudno, Bangor, Caernarfon a Chaergybi.

Mae perchnogion siopau hefyd yn cael eu hannog i beidio â gwerthu blawd ac wyau i blant yn y dyddiau sy'n arwain at 31 Hydref, a bydd y timau hefyd yn dosbarthu posteri i adwerthwyr yr ardal.

Mae Swyddogion Heddlu Cyswllt Ysgolion yng Ngogledd Cymru hefyd yn
siarad â phobl ifanc - drwy'r ysgolion a chlybiau ieuenctid, am y ffordd y gall
eu hymddygiad effeithio ar bobl eraill, nid yw pawb yn dymuno bod yn rhan o'r
dathliadau Calan Gaeaf. Byddant hefyd yn cael eu hatgoffa i gadw eu hunain yn
ddiogel wrth fynd allan i chwarae cast neu geiniog ac mae llyfrnodau pwrpasol
yn cynnwys cyngor wedi cael eu dosbarthu.

"Mae timau plismona lleol ar draws Gogledd Cymru yn cydweithio'n agos
â'u cymunedau er mwyn sicrhau bod y rhai hynny sydd eisiau cael hwyl dros Galan Gaeaf yn gallu gwneud hynny heb amharu ar eraill," meddai'r Arolygydd Julie Sheard sydd yn gyfrifol am yr Adran Diogelwch Cymunedol.

"Er bod llawer o bobl yn mwynhau eu hunain yr adeg yma o'r flwyddyn, mae
pobl yn cnocio ar ddrws tŷ'n annisgwyl drwy gydol y noson yn gallu achosi poen
meddwl i rai pobl."

"Drwy osod arwydd yn y ffenestr, bydd pawb yn gwybod beth mae'r
trigolion hynny'n ei ffafrio. Gobeithio y bydd pobl yn parchu hynny ac y bydd
pobl sy'n dymuno peidio â chael ymwelwyr yn cael llonydd ar nos galan gaeaf."

Ychwanegodd: "Rydym yn dymuno nos galan gaeaf diogel a hapus i bawb ond rydym am atgoffa pobl i gael hwyl mewn modd cyfrifol yn hytrach nac aflonyddu pobl eraill."

Mae'r Heddlu ac asiantaethau partner yn cymryd agwedd ragweithiol ac ar
y cyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac mae pamffledi sy'n cynnwys cyngor a gwybodaeth am dân gwyllt hefyd yn cael eu dosbarthu.

Mae'r heddlu a phartneriaid hefyd yn cydweithio â'r Gwasanaeth Tân ac Achub drwy ddosbarthu pamffledi ynglŷn â phwysigrwydd diogelwch tân gwyllt.

Ychwanegodd Arolygydd Sheard: "Rydym yn gwybod fod y rhan fwyaf o bobl
yn mwynhau'r adeg yma o'r flwyddyn mewn modd cyfrifol ac nid ydym eisiau
difetha eu hwyl, ond yn anffodus mae lleiafrif yn barod i achosi problemau a
defnyddio'r adeg hon o'r flwyddyn fel esgus i dorri'r gyfraith ac ymddwyn yn
wrthgymdeithasol.

"Byddwn yn cydweithio ag asiantaethau eraill er mwyn cadw pobl yn
ddiogel a sicrhau nad yw eu hwyl yn cael ei ddifetha. Er mwyn sicrhau diogelwch
pawb hoffem annog pobl fynychu nosweithiau tân gwyllt sydd wedi eu trefnu, a
fydd yn cael eu hyrwyddo drwy'r wasg leol cyn y 5ed o Dachwedd."

Meddai Terry Williams, Pennaeth Diogelwch Cymunedol, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Pob blwyddyn, bydd nifer fawr o bobl yn cael eu hanafu'n ddifrifol neu'n cael eu llosgi yn ystod y tymor tân gwyllt wrth danio coelcerthi neu dân gwyllt. Digwyddiadau cymunedol wedi'u trefnu sy'n darparu'r gwerth gorau am arian yng Ngogledd Cymru heb os ac maent hefyd yn sicrhau nad oes rhaid i deuluoedd gymryd risg drwy gynnal partïon tân gwyllt.

"Mae'n anghyfreithlon gwerthu tân gwyllt i unrhyw un o dan ddeunaw. Mae
nifer o fathau o dân gwyllt wedi eu gwahardd rhag eu gwerthu i'r cyhoedd. Mae
taflu tân gwyllt mewn man cyhoeddus hefyd yn anghyfreithlon - bydd dirwy o
£5000 yn disgwyl y rhai sy'n cael eu heuogfarnu."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen