Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

‘Eich Gwasanaeth, Eich Dewis Chi’ - lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar lefel y gwasanaethau tân ac achub a darperir yng Ngogledd Cymru

Postiwyd

Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pobl i gymryd rhan yn y dasg o'i helpu i gynllunio'r gwasanaethau tân ac achub a ddarperir yng Ngogledd Cymru.

Mae'r Awdurdod wedi ymrwymo i wneud Gogledd Cymru yn lle mwy diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hi ond mae'r pwysau ariannol ar wasanaethau cyhoeddus yn golygu bod angen cymryd penderfyniadau anodd ynglŷn â sut i fodloni'r galw am wasanaethau ond gyda chyllidebau prinnach.

 

Mae'r Awdurdod felly'n awyddus i glywed barn pobl ar ddarparu gwasanaethau fforddiadwy yng Ngogledd Cymru. Mae'r Awdurdod Tân ac Achub fyth a hefyd yn adolygu a gwella'r gwasanaethau y mae'n eu darparu, ac fel rhan o'i broses gynllunio flynyddol mae'n gwahodd pawb i rannu eu sylwadau a'u barn ar ei flaenoriaethau arfaethedig.    

Mae'r ymgynghoriad pwysig hwn yn cynnig tri opsiwn - pa un sy'n cael eich cefnogaeth chi? Fel arall, efallai bod gennych awgrym gwell er mwyn darparu gwasanaethau tân ac achub fforddiadwy yng Ngogledd Cymru.

 

Meddai'r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub: "Mae'r cwestiynau sydd yn rhan o'r ymgynghoriad hwn yn gofyn a allwn ni wneud yn siŵr ein bod yn parhau i ddarparu'r gwasanaeth gorau posib gyda'r arian sydd ar gael i ni.

 

"Po fwyaf o bobl fydd yn cymryd rhan, gwell  fydd ein rhagolygon ni o sicrhau'r cydbwysedd iawn o ran gwasanaethau.  Po fwyaf o sylwadau a derbyniwn, gallwn fod yn hyderus bod y cynlluniau gweithredu manwl a ddatblygwn yn cyflawni'r union beth y mae ei angen ar bobl y Gogledd."

 

Cewch wybod mwy am sut i gymryd rhan drwy fynd i'n gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk - y dyddiad olaf ar gyfer cwblhau'r arolwg yw 9fed Ionawr 2015.

 

Bydd yr Awdurdod yn ystyried ei gynlluniau i'r dyfodol yng ngoleuni'r ymatebion a dderbynnir cyn y dyddiad cau uchod, ac yn cyhoeddi Cynllun Gwella terfynol 2015-16 ar wefan yr Awdurdod erbyn 31ain Mawrth 2015.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen