Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cadwch yn ddiogel yn ystod noson tân gwyllt

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn apelio ar i bobl ifanc beidio â chwarae gyda thân gwyllt a chynnau coelcerthi yn ystod hanner tymor.

Gydag wythnos i fynd tan noson tân gwyllt mae'r gwasanaeth tân ac achub yn erfyn ar i bobl y Gogledd fod yn wyliadwrus o dân gwyllt a mynd i nosweithiau tân gwyllt sydd wedi cael eu trefnu'n lleol.

Meddai Terry Williams, Pennaeth Diogelwch Tân Cymunedol: "Y mae yna gyfrifoldeb ar bob un ohonom i gymryd sylw o ddiogelwch ar yr adeg yma o'r flwyddyn. Ni allwn bwysleisio digon mai'r ffordd orau i leihau nifer yr anafiadau yn ystod noson tân gwyllt drwy fynd i nosweithiau cymunedol.  Y mae noson tân gwyllt yn achosi gofid i bobl hyn ac anifeiliaid anwes, felly drwy fynd i noson gymunedol byddwch yn helpu i leddfu'r gofid hwn.

"Os oes yn rhaid i chwi gynnau tân gwyllt eich hun, dilynwch y rheolau tân gwyllt.

Y Rheolau Tân Gwyllt

- Prynwch dân gwyllt gyda'r marc diogelu BS 7114 arnynt.

- Peidiwch ag yfed alcohol os ydych yn cynnau tân gwyllt.

- Cadwch dân gwyllt mewn bocs gyda chaead arno.

- Dilynwch y cyfarwyddiadau unigol ar gyfer y tân gwyllt.

- Taniwch hwy hyd braich, a defnyddiwch dapr.

- Safwch yn ddigon pell yn ôl.

- Peidiwch â mynd yn ôl at dân gwyllt sydd wedi ei gynnau. Hyd yn oes os nad ydyw wedi cynnau'n iawn mae dal yn bosib iddo ffrwydro.

- Peidiwch byth â rhoi tân gwyllt yn eich poced na'u taflyd.

- Cadwch lygaid ar blant pan fydd tân gwyllt yn cael eu tanio.

- Taniwch ffyn gwreichion un ar y tro a gwisgwch fenig.

- Peidiwch byth â thoi ffyn gwreichion i blant dan bump.

-Cadwch anifeiliaid anwes yn y ty.  

"Os ydych yn bwriadu cynnau coelcerth, rhowch wybod i Ystafell Reoli Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru drwy alw  01931 522 226."

Meddai'r Arolygydd Julie Sheard: "Gwyddom fod y rhan fwyaf o bobl yn mwynhau'r adeg yma o'r flwyddyn yn gall ac nid ydym yn bwriadu difetha'r hwyl i bawb, ond mae yna rai sydd yn defnyddio Noson Tân Gwyllt fel esgus i droseddu ac ymddwyn yn wrthgymdeithasol.

"Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill i gadw pobl yn ddiogel ac i wneud yn siwr nad ydyw'r noson yn cael ei difetha gan y lleiafrif.  Er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd, rydym yn annog pawb i fynd i nosweithiau tân gwyllt sydd wedi eu trefnu'n lleol.  Bydd y nosweithiau hyn yn cael eu hysbysebu yn y wasg leol cyn Tachwedd y 5ed."  

Nosweithiau Tân Gwyllt a Choelcerthi Cymunedol yn lleol i chi:

Yr Wyddgrug - 5ed Tachwedd 6.45 pm Clwb Pêl-droed yr Wyddgrug

Bae Colwyn -5ed Tachwedd 7.17pm ym Mharc Eirias

Dinbych - Safle Castell Dinbych5ed Tachwedd

Aberdyfi - 1af Tachwedd 6.30pm yn yr Orsaf Dân

Abermaw- 8fed Tachwedd 6.30pm

Glannau Dyfrdwy - 5ed Tachwedd 7.30pm yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy

Y Rhyl- 5ed Tachwedd 7.30pm Y Cae Sioe, Ffordd Rhuddlan, Y Rhyl

Abergele - 1af Tachwedd 6.30pm i blant, a'r brif arddangosfa am 7.30pm yn Nhraeth Pensarn

Os gwyddoch am unrhyw un sydd yn camddefnyddio tân gwyllt er mwyn difrodi eiddo neu anafu rhywun, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, Neu 999 os yw'n fater brys.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen