Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diwrnod Hwyl i hybu'r Gymraeg i deuluoedd ifanc yng Ngorsaf Dan y Rhyl

Postiwyd

 

Gwahoddir plant ifanc o'r Rhyl a'r cyffiniau i Orsaf Dân y Rhyl Ddydd Iau 20fed Tachwedd am ddiwrnod o hwyl.

Y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Twf, Mudiad Meithrin a Menter Iaith Sir Ddinbych  er mwyn trefnu diwrnod yn llawn gweithgareddau megis crefftau, amser stori, cyfle i gwrdd â Peppa Pinc a Dewin a thaith dywys o gwmpas Gorsaf Dân Gymunedol y Rhyl, a'r cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg.  

Meddai Nici Siôn, Cyfieithydd a Swyddog Cyswllt Iaith Gymraeg Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Fel Gwasanaeth rydym yn hybu'r Gymraeg yn rheolaidd a thrwy gynnal y digwyddiad hwn yng Ngorsaf Dân y Rhyl gall ei staff dwyieithog ddangos i'r ymwelwr bod dysgu Cymraeg o fantais wrth chwilio am waith. Dyma'r ail ddigwyddiad i ni ei drefnu - fe gynhaliom ddigwyddiad llewyrchus iawn y llynedd a daeth cannoedd o blant i fwynhau'r diwrnod.  

Meddai Elin Jones, Swyddog Twf Sir Ddinbych, "Rydym yn falch iawn ein bod yn cael cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad fel hyn gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Tân ac Achub.

Os ydych chi'n rhiant neu'ch bod ar fin dod yn rhiant, mae'n bwysig eich bod yn ystyried pa ieithoedd  y byddwch chi'n eu cyflwyno i'ch plentyn.  Mae dewis cyflwyno'r Gymraeg i'ch plentyn yn benderfyniad pwysig iawn - i rhieni, y plentyn a'r teulu cyfan.  Y cyngor gorau posib yw rhoi cynnig arni cyn gynted â phosib a chymryd mantais o'r gefnogaeth sydd ar gael yn lleol. Y mae manteision lu ynghlwm â siarad mwy nag un iaith - y mae'r Gymraeg yn agor y drws i bob math o gyfleoedd yn cynnwys mwy o gyfleoedd yn y gweithle.

Y mae croeso i rieni gyda babanod neu blant ifanc ymuno gyda ni - dewch i gael hwyl gyda ni yn Gymraeg!"

Y mae'r sesiynau wedi eu trefnu ar gyfer rhieni a phlant ifanc am 10.30am a 1pm. Mae'r orsaf dân wedi ei lleoli ar Ffordd y Glannau y Rhyl.

Y mae croeso cynnes i bawb.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen