Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Teulu o bump yn cael dihangfa lwcus yn dilyn tân yn Garden City

Postiwyd

 

Y mae diffoddwyr tân yn rhybuddio unwaith eto am bwysigrwydd cymryd pwyll gydag eitemau trydanol wedi i deulu o bump gael dihangfa lwcus o dân yn eu cartref yn Sir y Fflint.

 

Daw'r rhybudd ychydig dros fis wedi i ddau ddyn gael eu lladd yn dilyn tân yn Llanrwst, a gychwynnodd mewn peiriant sychu dillad yn ôl pob tebyg, ac wythnos wedi i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gefnogi'r ymgyrch genedlaethol Wythnos Diogelwch Trydan i rybuddio trigolion ynglyn â pheryglon tanau trydanol, gan mai dyma un o brif achosion tanau damweiniol yn y cartref yn y wlad hon.

Fe anfonwyd dau beiriant tân o Lannau Dyfrdwy i'r digwyddiad ar Sealand Avenue yn Garden City am 00.43o'r gloch yn ystod oriau mân y bore Ddydd Mercher (19eg Tachwedd). Fe ddefnyddiodd y criwiau bibell dro a phedwar set o offer anadlu i ddelio gyda'r tân.

 

Cafodd dynes 43 mlwydd oed a'i phlant - ei merch 16oed,ei meibion 12 a 10 oed a'i mab 6 mis oes - eu cludo i'r ysbyty am driniaeth ragofalol oherwydd eu bod wedi anadlu mwg.  

 

Credir bod y tân wedi ei achosi gan nam trydanol mewn peiriant golchi llestri ac roedd y difrod wedi ei gyfyngu i'r gegin.

 

Meddai Chris Nott, Rheolwr Diogelwch Cymunedol: "Roedd y teulu yma'n lwcus iawn.  Oherwydd bod y larwm mwg yn yr eiddo wedi seinio rhybudd llwyddodd y preswylwyr i fynd allan yn ddianaf ar y cyfan a llwyddodd y diffoddwyr tân i gyrraedd yn brydlon fel na achosodd y tân ddifrod pellach i weddill yr adeilad.

 

"Mae tanau trydanol yn creu risg gwirioneddol i berchnogion tai, ac yn aml iawn maent yn achosi difrod sylweddol i eiddo ac weithiau gallant arwain at ganlyniadau trasig iawn, fel yn achos y tân yn Llanrwst yn ddiweddar.

 

"Mae'r rhan fwyaf o danau trydanol yn digwydd oherwydd nad ydy'r eitemau trydanol yn cael eu defnyddio yn y modd cywir.  Mae'n bwysig eich bod yn defnyddio cyfarpar trydan yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a'ch bod yn archwilio eitemau trydan a lidiau rhag ofn eu bod wedi eu difrodi neu dreulio.  Mae cymaint o drigolion yn defnyddio eitemau sydd yn hen neu'n beryglus ac yn gorlwytho socedi, sydd yn creu risg gwirioneddol o dân angheuol.

 

"Cofiwch ei bod hi'n bwysig i chi ddiffodd cyfarpar trydan cyn mynd i'r gwely - os bydd tân yn cynnau ynghanol y nos mae'n bosib na fyddwch byth yn deffro.

 

"Fe all tanau trydanol ddigwydd i unrhyw un, yn unrhyw le felly ein cyngor yw byddwch yn barod a chadwch yn ddiogel - ceir cyngor ar ein gwefan ar sut i osgoi'r peryglon.

 

"Gosod larymau mwg yw'r unig ffordd o amddiffyn eich cartref rhag tân - ac eto mae 20% o'r tanau yr ydym ni'n cael ein galw atynt yn digwydd mewn cartrefi heb larymau mwg gweithredol o gwbl."

 

 

Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn  rhad ac am ddim, lle byddwn yn gosod larymau mwg newydd am ddim, galwch ein rhif rhadffôn 24 awr 0800 1691234, neu ewch i www.gwastan-gogymru.org.uk  

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen