Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar

Postiwyd

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar

 

I gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar 2014 (19eg - 25ain Mai 2014), mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn atgyfnerthu'r neges ei fod yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim ac yn darparu offer arbenigol i'r byddar a'r trwm eu cyfle yn y rhanbarth.

 

Y mae bron i filiwn o oedolion yn y DU methu â chlywed larymau mwg arferol oherwydd eu bod yn cael trafferth clywed neu oherwydd eu bod yn tynnu eu teclynnau clyw i fynd i'r gwely (amcangyfrifiad  gan yr RNID, 2006).

 

Felly fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn awyddus i atgoffa trigolion sydd wedi colli eu clyw i osod a phrofi larymau mwg yn eu cartrefi.

 

Y mae dewis eang o larymau mwg sydd wedi cael eu dylunio'n arbennig i'r byddar - gall y larymau mwg arbenigol hyn achub bywydau, gan rybuddio pobl o dân yn y cartref hyd yn oed os ydynt wedi tynnu eu teclynnau clyw gyda'r nos.  

 

Meddai Gary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Mae'n hanfodol bod pobl fyddar neu drwm eu clyw yn sicrhau eu bod yn gosod y larymau mwg cywir yn eu cartref er mwyn eu cadw'n ddiogel - a'u bod yn eu profi'n rheolaidd, i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio!

 

"Y mae nifer o bobl sydd wedi colli eu clyw mewn perygl mawr os nad oes ganddynt larymau mwg pwrpasol.  Bydd larwm arbenigol yn rhoi cyfle i chi ddianc o dân yn y cartref. Hebddynt, mae bywydau yn y fantol.

 

"Os ydych chi'n ansicr o'ch larwm mwg cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am archwiliad diogelwch tân y cartref.  Rydym yma i wneud yn siŵr bod eich cartref mor ddiogel â phosib rhag tân.

 

"I gofrestru am archwiliad, ffoniwch ein llinell gymorth 24 awr 0800 169 1234 neu ewch i www.larwmmwgamddim.co.uk ."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen