Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

‘Dychwelyd i wasanaeth arferol’ wedi i ddiffoddwyr tân fynd ar streic heddiw

Postiwyd

Daeth y streic pum awr a gynhaliwyd gan ddiffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr i ben am 5 o'r gloch heddiw (Dydd Gwener 2 Mai).

 

Dyma oedd y streic ddiweddaraf i gael ei threfnu gan Undeb y Brigadau Tân (FBU) i brotestio yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer pensiynau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Tân Simon Smith ei fod yn hapus gyda'r modd y llwyddodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i ymdopi yn ystod y streic.

 

"Fel y disgwylid, fe welsom leihad sylweddol yn yr adnoddau oedd ar gael i ni. Fodd bynnag, fe weithiodd ein trefniadau rheoli parhad busnes yn effeithiol ac wedi'r streic  fe lwyddom i sicrhau bod y gwasanaeth arferol yn cael ei adfer yn gyflym a diogel.

 

"Roedd nifer y galwadau a dderbyniodd ein hystafell reoli yn llawer iawn llai na'r hyn y maent yn ei dderbyn ar brynhawn Gwener arferol  ac nid oedd yn rhaid i ni anfon adnoddau yn ystod y streic  - felly unwaith eto, hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad ac am wrando ar ein negeseuon diogelwch.

 

"Fodd bynnag, er bod y streic yma drosodd, hoffwn eich atgoffa ei bod hi'n bwysig iawn i chi gadw diogelwch tân a ffyrdd mewn cof y penwythnos hwn, yn enwedig gan fod pob yn llawer iawn mwy o beryglon i'w cael ar  ŵyl banc - y mae disgwyl i ddiffoddwyr tân fynd ar streic eto yfory 2pm a 2am y bore canlynol, ac eto Ddydd Sul rhwng 10am a 3pm"

 

Mae cyngor ar sut i gadw'n ddiogel rhag tân yn y cartref ar gael drwy fynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk, @NorthWalesFire a www.facebook.com/Northwalesfireservice .

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen