Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diweddariad – Tân yn Ystad Ddiwydiannol River Lane, Saltney

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân yn dal i ddelio gyda thân sy'n cynnwys gwastraff ailgylchu mewn uned ar Ystâd Ddiwydiannol River Lane, Saltney.

Derbyniwyd yr alwad am 08.08 o'r gloch ddoe, Dydd Mawrth 20fed Mai.

Mae criwiau o Dreffynnon a Glannau Dyfrdwy, a'r Peiriant Cyrraedd yn Uchel o'r Rhyl a'r Pwmp Cyfaint Uchel o Landudno ynghyd â'r Uned Amddiffyn yr Amgylchedd o Wrecsam yn bresennol ar hyn o bryd.

MeddaiIan Williamso Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Rydym yn trochi'r gwastraff gyda dŵr ac yn defnyddio palwyr mecaneg i lusgo'r gwastraff o'r adeilad, fel y gallwn leithio'r gwastraff.  Rydym yn gweithio'n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod gweithdrefnau amddiffyn yr amgylchedd ar waith.

"Oherwydd bod cymaint o wastraff ar dân, y mae disgwyl i'r broses gymryd amser.  Nid oes raid i drigolion ac ymwelwyr boeni gan fod y tân dan reolaeth ac mae gennym adnoddau ar waith i reoli'r digwyddiad yn effeithiol."

Meddai David Lee, arweinydd y tîm rheoli amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae ein swyddfeydd yn parhau i weithio gyda Gwasanaeth Tân ac achub Gogledd Cymru a pherchnogion y safle i leihau'r effaith amgylcheddol ar yr Afon Dyfrdwy.

"Y mae rhywfaint o'r dŵr a gafodd ei ddefnyddio i ddiffodd y tân wedi treiddio i'r afon Dyfrdwy ond  ni chredir y bydd hyn yn effeithio llawer ar yr amgylchedd gan mai dim ond ychydig iawn o ddŵr llygrol sydd wedi treiddio i'r afon.

"Efallai y bydd rhywfaint o effaith yn lleol megis arogl mwg a lliw drwg ar y dŵr ond, unwaith eto, bydd y rhain yn finimol a ni fyddant yn cael unrhyw effaith ar yr amgylchedd."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen