Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

‘Dychwelyd i wasanaeth arferol’ wedi i ddiffoddwyr tân fynd ar streic heddiw

Postiwyd

 

 

Daeth y streic deuddeg awr a gynhaliwyd gan ddiffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr i ben am 2 o'r gloch y bore yma (Dydd Sul 4 Mai).

 

Dyma oedd yr ail streic i gael ei chynnal dros ŵyl banc mis Mai a'r streic ddiweddaraf i gael ei threfnu gan Undeb y Brigadau Tân (FBU) i brotestio yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer pensiynau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Tân Simon Smith bod y trefniadau a roddodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar waith wedi gweithio'n dda.

 

"Fel y disgwylid, fe welsom leihad sylweddol yn yr adnoddau oedd ar gael i ni -  fe weithiodd ein trefniadau rheoli parhad busnes yn effeithiol ac wedi'r streic  fe lwyddom i sicrhau bod y gwasanaeth arferol yn cael ei adfer yn gyflym a diogel.

 

"Ni dderbyniodd ein hystafell reoli fwy o alwadau na'r hyn y mae yn arfer ei dderbyn ar ŵyl banc ac rwyf yn falch ein bod wedi parhau i ddarparu gwasanaeth ar draws y rhanbarth -  unwaith eto, hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad ac am wrando ar ein negeseuon diogelwch.

 

"Cawsom ein galw i un achos o losgi bwriadol, sydd yn siomedig iawn gan fod ein hadnoddau wedi cael defnyddio'n ddiangen.

 

 

"Er bod y streic yma drosodd, hoffwn eich atgoffa ei bod hi'n bwysig iawn i chi gadw diogelwch tân a ffyrdd mewn cof y penwythnos hwn, yn enwedig gan fod pob yn llawer iawn mwy o beryglon i'w cael ar  ŵyl banc - y mae disgwyl i ddiffoddwyr tân fynd ar streic eto heddiw rhwng 10am a 3pm"

 

Mae cyngor ar sut i gadw'n ddiogel rhag tân yn y cartref ar gael drwy fynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk, @NorthWalesFire a www.facebook.com/Northwalesfireservice .

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen