Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

‘Dychwelyd i wasanaeth arferol’ yn dilyn y streic olaf mewn cyfres o streiciau gan ddiffoddwyr tân

Postiwyd

Daeth y cyfnod olaf o weithredu diwydiannol mewn cyfres o streiciau ysbeidiol yng Nghymru a Lloegr i ben am 11.59pm heno (Nos Sul Awst 17)

Dyma oedd y streic ddiweddaraf i gael ei threfnu gan Undeb y Brigadau Tân (FBU) i brotestio yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer pensiynau.

Adroddodd y Prif Swyddog Tân Simon Smith bod y trefniadau a roddwyd yn eu lle gan Wasanaeth Tân ac Achub  Gogledd Cymru i barhau i ddarparu gwasanaeth wedi gweithio'n dda drwy gydol y streic.

"Fe weithiodd ein trefniadau parhad busnes yn effeithiol - fe wnaethom ymdopi'n dda er gwaetha'r lleihad yn ein hadnoddau yn ystod y streic a llwyddom i adfer y gwasanaeth arferol yn fuan wedi i'r streic orffen. Fodd bynnag, cawsom ddau achos o gynnau tanau yn fwriadol sydd yn siomedig iawn gan bod hyn wedi bod yn draul ar ein hadnoddau. Yn siomedig iawn hefyd, cawsom ddwy alwad faleisus gan y cyhoedd yn ystod y streiciau - mae'r ymddygiad hwn yn gwbl annerbyniol.  

"Er bod y streic ddiweddaraf wedi dod i ben, hoffwn eich atgoffa ei bod hi'n bwysig iawn i chi gadw diogelwch tân a ffyrdd mewn cof. Ni wyddwn eto a fydd Undeb y Brigadau Tân yn cyhoeddi rhagor o streiciau ac felly rwyf yn annog pawb i barhau i gymryd pwyll arbennig'."

Mae cyngor ar sut i gadw'n ddiogel rhag tân yn y cartref ar gael drwy fynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk, @NorthWalesFire a www.facebook.com/Northwalesfireservice

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen