Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd: Trafferthion teithio ar yr A55

Postiwyd

 

Mae'r Heddlu ac asiantaethau partner yn rhybuddio modurwyr sy'n teithio tuag at ac oddi ar Ynys Môn i ddisgwyl oedi.

O ganlyniad i wyntoedd cryfion mae Pont Britannia wedi ei chau yn rhannol.  Dim ond ceir a cherbydau tebyg y caniateir iddynt deithio dros y bont. Mae'r holl gerbydau eraill - gan gynnwys cerbydau ochrau uchel, cerbydau nwyddau trwm, carafanau a beiciau modur yn cael eu dargyfeirio oddi ar yr A55.  

Ar hyn o bryd:

.             Mae'r A55 ar gau yng nghyffordd 11 gyda thraffig yn cael ei ddidoli

.             Mae Cyffordd 10 yr A55 tua'r Gorllewin ar gau

.             Cyffordd 9 yr A55 tua'r Gorllewin, didoli ar y ffordd ymadael

.             Cyffordd A55 tua'r Dwyrain 8A Carreg Bran - didoli yn digwydd

.             Mae loriau HGV a cherbydau ochrau uchel yn cael eu cyfeirio i Fryn Cegin lle mae  cyfleusterau gorffwys ar gael.

Fe ddylai modurwyr sy'n teithio i Borthladd Caergybi wirio amseroedd cwch gyda'r cwmni ac fe gynghorir yr holl gerbydau ym Mhorthladd Caergybi i aros yn y lleoliad tan y bydd Pont Britannia yn ail agor.

Mae cyflymder y gwynt yn cael ei fonitro ac fe roddir diweddariadau.

Meddai'r Prif Arolygydd Nick Evans: "Disgwylir problemau teithio ac fe gynghorir pobl sy'n mynd i Borthladd Caergybi gysylltu â'r cwmni teithio cyn cychwyn ar eu taith."

Gofynnwn i bobl fod yn ofalus ac ystyried a yw eu taith yn wir angenrheidiol.

55

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen