Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cyhoeddi enillwyr yr ymgyrch BANG

Postiwyd

 

Rhoddwyd cyfle i blant ennill iPod Shuffle dros gyfnod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt y llynedd, yn ystod digwyddiadau a gweithgareddau a gynhaliwyd fel rhan o'r ymgyrch  BANG.

 

Mae'r fenter BANG (Bydda'n gall Ar Noson Guto) yn cael ei gefnogi gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas ag Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned, yn atgoffa plant ar draws y Gogledd y gall eu hymddygiad effeithio eraill ac i gadw'n ddiogel wrth fynd allan dros gyfnod calan gaeaf a thân gwyllt.

 

Llongyfarchiadau i'r enillwyr sef  Caitlin Tocker o Ysgol Dyffryn Nantlle ac Antonia Ward fo  Ysgol Bryn Alun.

 

Meddai Kevin Jones, Rheolwr Lleihau Llosgi Bwriadol: "Mae'r ymgyrch BANG yn ein helpu i amlygu pwysigrwydd cadw'n ddiogel yn ystod dathliadau calan gaeaf a noson tân gwyllt ac unwaith yn rhagor y mae wedi llwyddo i leihau nifer y digwyddiadau yr ydym yn cael ein galw atynt.  

 

"Fe drefnom nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau hwylio i blant ar draws y Gogledd, a chafodd pawb a oedd yn bresennol gyfle i gwblhau cwis ar ddiogelwch tân a thanau bwriadol a oedd wedyn yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth i ennill y wobr.

 

"Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae'r ymgyrch wedi ein helpu i wella ein cyswllt gyda phobl ifanc ac mae wedi ein helpu ni a'n partneriaid i addysgu pobl ifanc yng Ngogledd Cymru."

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen