Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân trydanol yn achosi difrod sylweddol

Postiwyd

 

Mae diffoddwyr tân yn rhybuddio'r cyhoedd ynglyn â pheryglon cyfarpar trydanol, yn dilyn digwyddiad yn Ninbych.

 

Cafodd criwiau o Ddinbych eu galw i'r digwyddiad ar Lôn Fammau yn Ninbych am  05.09 o'r gloch yn ystod oriau mân y bore Ddydd Iau (22ain Ionawr).  Fe ddefnyddiodd  y criwiau ddwy bibell dro, dau set o offer anadlu, a chamera delweddu thermol i ddelio gyda'r digwyddiad.  

 

Credir bod y tân wedi ei achosi gan gylched byr trydanol, ond roedd wedi ei gyfyngu i'r garej domestig ar wahân.

 

Meddai Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol: "Roedd perchnogion yr eiddo yn ffodus iawn eu bod y diffoddwyr tân wedi cyrraedd yn brydlon ac achosi unrhyw ddifrod pellach. Wedi dweud hynny, fe achoswyd difrod gwres a mwg sylweddol i'r adeilad allanol, a ledaenodd i'r cartref gan achosi mân ddifrod gwers i'r cwteri a'r ffenestri.

 

"Mae tanau trydanol yn rhoi perchnogion tai mewn perygl mawr.  Yn aml iawn maent yn achosi difrod sylweddol i eiddo, ac weithiau'n arwain at ganlyniadau trasig iawn fel yr ydym ni wedi ei weld yn y gorffennol.

 

"Mae'r rhan fwyaf o danau trydanol yn cael eu hachosi oherwydd nad ydi pobl yn defnyddio'r offer yn iawn. Mae'n bwysig eu defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, archwilio eitemau a lidiau rhag ofn eu bod wedi eu difrodi neu wedi treulio, peidio â defnyddio eitemau hen a pheidio byth â gorlwytho socedi, gan y gallant achosi tân angheuol.

 

"Cofiwch ddiffodd popeth cyn i chi fynd i'r gwely - os bydd tân yn cynnau pan fyddwch yn cysgu mae'n bosib na fyddwch byth yn deffro eto.

 

"Fe all tanau trydanol ddigwydd i unrhyw un, yn unrhyw le ac ein cyngor yw byddwch yn barod a chadwch yn ddiogel - dilynwch y cyngor sydd ar ein gwefan er mwyn osgoi'r peryglon.

"Gosod larymau mwg yn y cartref yw'r unig ffordd o'ch cadw'n ddiogel rhag tân yn y cartref - ac eto mae 20% o'r tanau yr ydym ni'n cael ein galw atynt yn digwydd mewn cartrefi lle nad oes larwm mwg gweithredol".

 

AM archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim , galwch ein rhif rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234, neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk

 

-

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen