Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Larwm mwg yn seinio rhybudd i breswylwyr yng Nghonwy

Postiwyd

Cafodd diffoddwyr tân o Gonwy a Bae Colwyn eu galw i dân  mewn eiddo yn Yr Angorfa, Conwy am 8.13pm Nos Fercher 7fed Ionawr.  

 

Cafodd y preswylwyr eu rhybuddio am y tân gan larwm mwg a llwyddodd pawb i fynd allan cyn i'r gwasanaeth tân ac achub gyrraedd.

 

Cafodd dau oedolyn a thri o blant archwiliad rhagofalol gan staff ambiwlans ond ni aethpwyd â hwy i'r ysbyty.

 

Credir mai tân damweiniol ydoedd ac o ganlyniad fe achoswyd difrod tân a mwg mewn un llofft a rhywfaint o ddifrod mwg yn y llawr gwaelod.

 

Fe ddefnyddiodd pedwar diffoddwyr tân offer anadlu a phibellau tro i ddiffodd y tân.

 

Meddai Gavin Roberts, Pennaeth Risg a Gwydnwch, "Fe seiniodd larwm mwg rybudd i'r preswylwyr.  Mae'r digwyddiad unwaith eto'n dangos pa mor bwysig yw hi i bobl osod larymau mwg yn eu cartrefi, gan eu bod yn rhoi rhybudd cynnar o dân.  Mae'n rhaid eu cynnal a'u cadw yn rheolaidd drwy brofi'r batri unwaith yr wythnos a'i newid yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

 

"Does dim rheswm pam y dylai unrhyw un yng Ngogledd Cymru fod heb larwm mwg gan fod y Gwasanaeth Tân ac Achub yn cynnig archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim i bawb ac fel rhan o'r gwasanaeth hwn byddwn yn gosod larymau mwg.  Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac rwyf yn erfyn ar bob un ohonoch i gofrestru drwy ffonio ein rhif rhadffôn 0800 169 1234 neu anfon e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk

 

"Os dewch o hyd i dân peidiwch â cheisio ei ddiffodd eich hun. Ewch allan o'r adeilad ar unwaith gan gau pob drws ar eich ôl, galwch y gwasanaeth tân ac achub ac arhoswch allan. Am ragor o wybodaeth ar ddiogelwch tân ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen