Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd am bwysigrywdd larymau mwg yn dilyn tân yn Nwygyfylchi

Postiwyd

Cafodd dyn ddihangfa lwcus o dân yn ei gartref yn Nwygyfylchi'r bore yma. 

Cafodd criw o Gonwy a Bae Colwyn eu galw i’r eiddo yn Hen Ffordd Conwy, Dwygyfylchi, Penmaenmawr am 9.35 o’r gloch y bore yma, Dydd Iau Rhagfyr 31.

Cafodd y tân ar lawr gwaelod yr eiddo ei ddiffodd gan ddefnyddio dau set o offer anadlu ac un bibell dro. Credir ei fod wedi ei achosi gan nam trydanol mewn gwresogydd olew.  

Nid oedd larwm mwg gweithredol yn yr eiddo, ond yn ffodus iawn cafodd y preswylydd ei ddeffro gan sŵn y tân.

Fe achosodd y tân ddifrod sylweddol i’r cyntedd a’r grisiau a difrod mwg sylweddol yng ngweddill yr adeilad.

Meddai Jane Honey o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Roedd y dyn yma’n ffodus iawn ei fod wedi cael ei ddeffro gan sŵn y tân – heb larwm dydy nifer ddim yn deffro ac maent yn cael eu taro’n anymwybodol gan y mwg. Mae larymau mwg yn achub bywydau gan eu bod yn rhoi rhybudd cynnar o dân.  

 “Gan nad oedd larymau mwg yn yr eiddo, roedd y tân wedi ffyrnigo erbyn i’n criwiau gyrraedd gan achosi difrod sylweddol i’r eiddo.

“Fe achoswyd y tân gan nam mewn gwresogydd olew – cofiwch archwilio’ch gwresogyddion rhag difrod. Os ydynt wedi eu difrodi, peidiwch â’u defnyddio.”

Am gyngor pellach ar ddiogelwch tân ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk

Am gyngor ar risgiau diogelwch tân mae Gwasanaeth Tân ac Achub yn cynnig archwiliadau diogelwch yn y cartref yn rhad ac am ddim. Fel rhan o’r archwiliad bydd aelod o’r Gwasanaeth yn dod i’ch cartref i gwblhau asesiad diogelwch, s, os oes raid, gosod larymau mwg yn rhad ac am ddim.

Mae’r archwiliadau hyn ar gael yn rhad ac am ddim i bawb yng Ngogledd Cymru. I gael archwiliad ffoniwch 0800 169 1234 unrhyw adeg o’r dydd, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk neu ewch i’n gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk Gadewch eich manylion cyswllt a bydd aelod o’ Gwasanaeth yn cysylltu gyda chi i drefnu archwiliad yn eich cartref ar adeg gyfleus.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen