Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Wythnos Genedlaethol Systemau Chwistrellu

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Systemau Chwistrellu (16-22 Mawrth 2015) i helpu i ddiogelu pobl a busnesau ledled y wlad.

Yn dilyn y rheoliadau newydd a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2014 mae'n orfodol i bobl osod systemau chwistrellu awtomatig mewn safleoedd risg uchel megis cartrefi preswyl, safleoedd sydd wedi eu haddasu'n neuaddau myfyrwyr, tai llety a rhai hostelau.  Ym mis Ionawr 2016, fe fydd hi hefyd yn dod yn orfodol i bobl osod systemau chwistrellu mewn  tai a fflatiau sy'n cael eu codi o'r newydd neu'n cael eu haddasu.

Meddai Gary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:  "Yr wythnos hon rydym yn gobeithio cynyddu ymwybyddiaeth buddion masnachol a diogelwch y systemau hyn o ran atal colledion a gwella diogelwch tân mewn busnesau a chartrefi ar draws y Gogledd. Byddwn yn canolbwyntio ar fuddion systemau chwistrellu ymysg busnesau, yn cynnwys safleoedd addysgiadol megis ysgolion a cholegau.

"Mewn cyfnod o galedi mae'n bwysicach fyth bod busnesau a sefydliadau addysgol yn diogelu eu hadnoddau allweddol, er mwyn eu galluogi i barhau i weithredu wedi tân.

"Mae manteision y systemau chwistrellu masnachol a domestig yn llawer mwy na chost gosod a chynnal a chadw'r systemau. Maent yn gwneud llawer mwy i'r DU na mae pobl yn ei feddwl - diogelu pobl, diffoddwyr tân, swyddi, cartrefi, busnesau, yr economi a'r  amgylchedd."

"Mae'r mwyafrif o danau a marwolaethau ac anafiadau o ganlyniad i dân yn digwydd yn y cartref.  Gall hyd yn oed tân bychan achosi difrod sylweddol.  Bob diwrnod yn y DU mae dau o bobl yn cael eu lladd mewn tân a 50 yn cael eu hanafu a mae'n debyg nad ydy wyth allan o ddeg o fusnesau yn llwyddo i ddod dros y tân.

"Mae systemau chwistrellu gyfystyr â chael diffoddwr tân ym mhob ystafell yn eich cartref neu'ch busnes.

Mae Wythnos Systemau Chwistrellu 2015 yn amlygu'r neges hon: mae'n well cadw tân dan reolaeth ar y cychwyn na adfer y difrod ar ôl iddo ledaenu.

Mythau am systemau chwistrellu

Myth 1:

Bydd pob chwistrellwr yn actifadu pan fydd tân, gan achosi gorlif yn fy nghartref. Bydd y chwistrellwyr unigol yn actifadu unwaith y bydd y tymheredd yn yr ystafell yn cyrraedd pwynt penodol.  Mae gan y chwistrellwyr synwyryddion gwres unigol - felly byddant yn rhyddhau dwr yn yr ardaloedd hynny lle mae'r tân. Yn achos 60% o ddigwyddiadau, cafodd tanau eu rheoli gan ddwr o bedwar chwistrellwr neu lai.  Mae diffoddwyr tân fel arfer yn defnyddio 15 gwaith mwy o ddwr i wneud yr un dasg â'r systemau chwistrellu.  

Myth 2:

Mae'n costio gormod i osod system chwistrellu. Mewn adeiladau newydd mae'r gost o osod systemau chwistrellu yn fforddiadwy, o ystyried oes yr adeilad - mae'n costio tua'r un faint â gosod carpedi newydd yn yr adeilad. Mae'n bosib hefyd y bydd cwmnïau yswirio yn rhoi disgownt i adeiladau sydd gan systemau chwistrellu, ac y bydd taliadau ychwanegol y polisi yn llawer is.

Myth 3:

Mae'n costio gormod i gynnal a chadw systemau chwistrellu. Mae'n costio rhwng tua £75-£150 y flwyddyn i gynnal a chadw system chwistrellu ddomestig (£6.25-£12.50 y mis). Mae hyn yn llawr llai a'r gost o brynu dodrefn newydd pe byddai tân yn digwydd.

Myth 4:

Mae systemau chwistrellu yn hyll ac yn effeithio ar ddyluniad yr adeilad. Gall systemau chwistrellu gyfrannu ar ryddid dylunio, yn enwedig wrth godi adeilad newydd. Gallant alluogi i chwi gael ystafelloedd mwy a lleihau parwydydd, neu alluogi i gynllun yr adeilad gwrdd ag anghenion y preswylwyr yn
well. Gellir eu gosod mewn cilfachau neu ar gyfwynebiadau fel nad ydynt yn
tynnu sylw.

Myth 5:

Mae systemau chwistrellu yn annibynadwy. Mae cofnodion byd eang yn dangos mai dim ond 1 o bob 16 miliwn o system chwistrellu sydd yn cael eu gosod bob blwyddyn sydd yn methu.  Mae pob chwistrellwr yn cael ei archwilio'n
iawn cyn gadael y ffatri gynhyrchu.  

Myth 6:

Mae systemau chwistrellu yn llwyddiannus yn achos tanau y gellir eu diffodd gyda dwr yn unig. Gellir cynnwys ewyn yn y systemau chwistrellu erbyn hyn er mwyn rheoli hylifau
fflamadwy a thanau cemegol a phetroliwm.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen