Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân ym Mlanaeu Ffestiniog

Postiwyd

Cafodd dyn ei gludo i'r ysbyty yn dilyn tân ym Mlaenau Ffestiniog y bore yma (Dydd Llun, Mai 18).

 

Am  2.43 o'r gloch y bore yma cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i dân mewn atig  ty ar y Stryd Fawr.  

 

Cafodd criwiau o Flaenau Ffestiniog a Phorthmadog eu galw i'r tân. Cafodd dynes a oedd yn byw yn yr eiddo ei rhybuddio am y tân gan larwm mwg a llwyddodd i fynd allan o'r ty i fan diogel.  Cafodd driniaeth yn y fan a'r lle gan y Gwasanaeth Ambiwlans. Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân offer anadlu a phibell dro i fynd i mewn i'r eiddo. Daethant o hyd i ddyn ar  yr ail lawr a chafodd ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans.

 

Roedd y tân dan reolaeth erbyn  3.23 o'r gloch y bore ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dal i fod yn bresennol.

 

Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill. Does dim rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen