Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cyfarwyddwyr ffilm ifanc yn hybu diogelwch ffyrdd

Postiwyd

Cyfarwyddwyr ffilm ifanc yn hybu diogelwch ffyrdd  

Mae myfyrwyr Lefel A mentrus wedi bod yn brysur yn ffilmio criwiau o Orsaf Dân Gymunedol y Rhyl wrth iddynt gymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd er mwyn amlygu peryglon gyrru yn beryglus ymysg pobl ifanc.

Bu i Adam Dawson, sydd yn fyfyriwr lefel A yn Ysgol Uwchradd y Rhyl a Phrestatyn, ffilmio staff o Orsaf Dân Gymunedol y Rhyl wrth iddynt gymryd rhan mewn gweithdy aml-asiantaeth gyda'r nod o alluogi staff o asiantaethau eraill i ymgyfarwyddo gyda'r gwahanol rolau y mae pawb yn eu cymryd yn ystod gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd.

Cafodd Adam Dawson help gan ddau gyfarwyddwr ifanc arall, Angharad Davies ac Euan Miller, ac mae'r tri yn rhan o FilmTEAM, sef grwp o gyfarwyddwyr ffilm ifanc sydd yn gwirfoddoli i weithio gydag Oriel Mostyn, Theatr Genedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwrych.

Bu i staff o'r Rhyl ymuno gydag aelodau'r Prosiect Chwyldro, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Gwasanaeth Meddygon Brys Gogledd Cymru, Tîm Chwilio ac Achub yr RAF a chafodd eu gwybodaeth ei roi ar brawf yn ystod yr Ymarfer Gwrthdrawiadau Traffig er mwyn dangos bod modd iddynt gydweithio'n effeithiol mewn  argyfwng.

Eglurodd Adam: "Ffilm yw fy myd, a dwi'n meddwl y dylai ffilm adrodd stori. Ro'n i'n teimlo bod yn rhaid i bobl gael gwybod am waith  Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru  o ddydd i ddydd.

"Yn aml iawn mi fydda i yn darllen straeon yn y papur newydd am bobl ifanc sydd wedi bod mewn gwrthdrawiadau traffig difrifol.  Dydy nifer o bobl ifanc ddim yn ystyried difrifoldeb y math yma o ddigwyddiadau.

"Ro'n i eisiau rhannu'r neges ymhlith fy ffrindiau, a dangos iddynt fod risgiau ynghlwm â gyrru.  Felly, penderfynais gysylltu gyda Gorsaf Dân Gymunedol y Rhyl a chreu ffilm fer a oedd yn dangos canlyniadau trasig gyrru yn anghyfrifol.

"Mae hyn wedi rhoi cyfle i FilmTEAM  gael blas ar weithio gyda grwp o bobl broffesiynol sydd yn allweddol o ran sicrhau'r canlyniadau gorau posib i bobl sydd yn rhan o ddigwyddiadau difrifol.

"Mae hefyd wedi bod yn gyfle i ni ddysgu sgiliau ffilm newydd. Mae ffilmio yn y math yma o leoliadau yn gwbl wahanol i ffilmio ar set, lle gallwch ailosod yr olygfa ac ail ffilmio os aiff rhywbeth o'i le.  Yma roedd yn rhaid i ni weithio fel tîm i wneud yn siwr ein bod yn cael y canlyniad gorau posib er mwyn cyfleu'r neges.

"Dwi'n ddiolchgar iawn i staff Gorsaf Dân Gymunedol y Rhyl am ganiatáu i ni ffilmio'r sesiwn hyfforddi. Diolch iddyn nhw fe fydd y ffilm yn cael effaith bositif a hirdymor ar yrwyr ifanc.

"Hoffwn ddefnyddio'r sgiliau yr ydw i wedi eu dysgu ar brosiectau yn y dyfodol, a fydd yn fy ngalluogi i weithio a ffilmio mewn gwahanol sefyllfaoedd, yn cynnwys, efallai cyfle i greu ffilmiau dogfen."

Meddai Ken Monks, Rheolwr Gwylfa Goch y Rhyl: "Roedd yn braf gweld tîm o bobl ifanc yn ffilmio ein hymarfer aml-asiantaeth; gobeithiaf y bydd eu gwaith yn amlygu peryglon gyrru'n anghyfrifol a'r difrod catastroffig y mae gwrthdrawiadau yn eu hachosi.

 

"Mae'r ymarferion yma o wrthdrawiadau ffug wedi eu dylunio i wella ein hymateb aml-asiantaeth a rhoi cyfle i griwiau sydd yn cael eu galw i'r math yma o ddigwyddiadau i weithio gyda'i gilydd yn ystod senarios hyfforddi realistig."

 

"Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael ei alw i nifer o wrthdrawiadau traffig ar y ffordd ochr yn ochr ag asiantaethau eraill; ac felly mae'n bwysig ein bod yn ymarfer gweithio mewn partneriaeth i ddarparu'r gofal gorau posib i anafusion, yn ystod ac wedi digwyddiadau o'r fath.

 

"Dyma'r seithfed tro i ni gynnal hyfforddiant rhyngasiantaethol ar gyfer personél y gwasanaethau brys. Cafwyd cyflwyniadau gan staff Gwylfa Goch, y Rhyl, Cadeirydd Gwasanaeth Meddygon Brys Gogledd Cymru ac Arweinydd Tîm Clinigol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Roeddent yn canolbwyntio ar gamau gweithredu pob gwasanaeth unigol yn ystod gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd er mwyn i bob asiantaeth gael gwell dealltwriaeth o'u blaenoriaethau. Cafodd y peryglon sydd ynghlwm â bod yn ymatebwr cyntaf yn dilyn digwyddiad hefyd ei amlygu; a darparwyd cyngor ar sut i atal y peryglon hyn.

 

"Fe gydweithiodd yr holl asiantaethau gyda'i gilydd ac ni fyddai'r ymarfer wedi bod yn llwyddiannus oni bai am gymorth Undeb yr Anafusion".

 

Ar ôl i'r ffilm gael ei chwblhau fe fydd yn cael ei llwytho ar dudalen YouTube FilmTEAM  https://www.youtube.com/channel/UCFOYBm76Y8sE5eZmlfONAUw a bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd yn ei hamlygu a'i rhannu ar  Facebook.

Gallwch hefyd eu dilyn ar Twitter @filmTEAM2011

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen