Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Achub dwy ddynes o dân mewn ty yng Nghaernarfon

Postiwyd

Mae ymchwiliad i achos tân mewn ty yng Nghaernarfon ar y gweill wedi i ddwy ddynes gael eu hachub o'r eiddo  gan diffoddwyr tân.

 

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i 'r digwyddiad yng Ngogledd Penrallt, Caernarfon am 04.30 o'r gloch y bore yma.

 

Roedd dau griw o Gaernarfon ac un o Lanberis yn bresennol..

 

Cafodd y merched, 27 a 65 mlwydd oed, eu rhybuddio am y tân gan larwm mwg a'u hachub gan griwiau tân o lawr cyntaf yr eiddo. T

 

Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân offer anadlu a phibellau tro i fynd i mewn i'r ty. Daethant o hyd i un ddynes mewn llofft a chafodd y llall ei hachub gan ddiffoddwyr tân drwy ffenestr yr ystafell ymolchi gan ddefnyddio ysgol.

 

Cafodd y ddwy eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlans.

 

Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill ac nid oes rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.

 

Meddai Geraint Hughes o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Roedd y preswylwyr yn ffodus iawn bod y larwm mwg wedi seinio a'u rhybuddio am y tân.

 

"Llwyddodd staff yr Ystafell Reoli i roi cyngor a sicrwydd i'r merched dros y ffôn wrth iddynt aros i'r diffoddwyr tân gyrraedd a dod o hyd iddynt.

 

"Mae'r digwyddiad yn amlygu pwysigrwydd gosod larymau mwg gweithredol yn eich cartref - fe allai olygu'r gwahaniaeth rhwng byw neu farw."

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref, lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn ymweld â'ch cartref ac yn rhannu cynghorion diogelwch tân gyda chi, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau newydd - a'r cyfan am ddim.

 

I gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref, galwch ein llinell rhadffôn sydd ar agor  24 awr o'r dydd ar  0800 169 1234, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen