Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Yfed yn gall a chadw'n ddiogel

Postiwyd

Yn ystod yr ymgyrch a fydd ar waith rhwng Mai 22 a Mai 29  bydd y pwyslais ar atal trosedd ac anhrefn, gorfodi deddfwriaethau cysylltiedig ag alcohol a rhoi gwybod i’r cyhoedd beth mae’r heddlu ac asiantaethau eraill yn ogystal â’r diwydiant trwyddedig ei hun yn ei wneud i annog gwerthwyr a defnyddwyr i ymddwyn yn gyfrifol.

Bydd timau plismona cymdogaethau gan gynnwys swyddogion gwirfoddol a SCCH ar ddyletswydd mewn mannau problemus yn ystod yr ymgyrch a bydd profion ID, profion am olion cyffuriau ac ymgyrchoedd yfed a gyrru ar waith. 

Bydd rhai timau trwyddedu yn gweithio gyda phartneriaid i gynnal ymgyrchoedd profion prynu mewn siopau a thafarndai ac yn ymweld â lleoliadau ble mae problemau’n digwydd yn aml.

Bydd gwiriadau diogelwch tân hefyd yn cael eu cynnal mewn tafarndai a chlybiau a bydd hysbysiadau gwasgaru'n cael eu cyflwyno os bydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn achosi problemau.

Gall camddefnyddio alcohol achosi niwed mawr mewn cymunedau ac mae’n draul ar adnoddau’r gwasanaethau brys, y gwasanaeth iechyd a’r cynghorau.

Yn genedlaethol mae alcohol yn ffactor yn bron 50 y cant o bob trosedd treisgar ac ym mron hanner hanner pob achos o gamdriniaeth ddomestig, mae yfed yn ormodol hefyd yn cynyddu’n sylweddol y tebygolrwydd y bydd rhywun yn cyflawni neu'n dioddef trosedd.

Meddai Prif Uwcharolygydd Jeremy Vaughan: “Rydym yn gwneud llawer iawn o waith i atal troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig ag alcohol.  Rydym yn cynghori pobl i gadw’u hunain yn ddiogel ac yn  sicrhau fod busnesau trwyddedig yn ymddwyn yn gyfrifol. 

“Rydym yn gwneud cyfraniad arwyddocaol tuag at gadw canol ein trefi’n ddiogel fel y gall pobl fwynhau noson allan, ond mae’n rhaid i ni drosglwyddo’r neges fod angen i bobl gymryd mwy o gyfrifoldeb drostynt eu hunain a’u ffrindiau er mwyn lleihau’r posibilrwydd y byddant yn cael eu hanafu, yn dioddef trosedd neu’n cael eu dwyn i mewn i ddigwyddiad treisgar o ganlyniad i’r ffaith eu bod nhw wedi yfed gormod.

“Mae pobl yn cael eu niweidio mewn sawl ffordd o ganlyniad i’w camddefnydd eu hunain neu gamddefnydd eraill o alcohol a’r gwasanaethau brys a’r awdurdodau lleol sy’n gorfod delio â’r effeithiau.  Nod yr ymgyrch yw sicrhau fod y rhai hynny sy'n gwerthu alcohol a'r rhai sy'n ei yfed yn cymryd cyfrifoldeb dros yr hyn maen nhw’n ei wneud.

“Yn ystod yr ymgyrch bydd Heddlu Gogledd Cymru yn gofalu fod tafarndai, clybiau, siopau a phobl sy’n yfed yn cadw at y gyfraith a byddwn yn delio’n gadarn â’r rhai hynny sydd ddim.  Mae’r neges yn syml, yfwch yn gall a chadwch yn ddiogel.”

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: “Mae’r fenter hon yn ffordd wych arall o weithio mewn partneriaeth â’n  cydweithwyr yn Heddlu Gogledd Cymru a’r awdurdodau lleol.  Dan y fenter bydd pob sefydliad yn cael cyfle i roi cyngor gyda’i gilydd mewn nifer o wahanol safleoedd gwersylla.  Ein cyngor pennaf ni i bobl sy’n gwersylla yw na ddylen nhw goginio ar ôl bod yn yfed alcohol ac y dylen nhw sicrhau eu bod yn cael gwared ar farbeciws yn y modd cywir.”

Wrecsam

Meddai Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Blaen Cyngor Wrecsam ar Gymunedau, Partneriaethau a Chydweithio:  “Mae Cyngor Wrecsam yn falch o fod yn gweithio gyda’r Heddlu a phartneriaid Diogelwch Cymunedol ar yr ymgyrch orfodi hon.  Ein nod yw ceisio sicrhau fod y farchnad drwyddedig yn cael ei rheoli’n gyfrifol ac annog pobl i ddefnyddio synnwyr cyffredin pan maen nhw allan yn yfed.  Mae cysylltiad agos rhwng camddefnyddio alcohol ac amrywiaeth eang o droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrwy weithio gyda’n partneriaid rydym yn anelu at atal a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau treisgar a sicrhau y gall pobl ddod i Wrecsam a mwynhau cymdeithasu mewn amgylchedd diogel.”

Sir y Fflint

Meddai Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros y Strategaeth Wastraff, Diogelu’r Cyhoedd a Hamdden: ‘Mae Cyngor Sir y Fflint yn llwyr gefnogi’r ymgyrch hon.  Mae’r cyngor yn trwyddedu pob eiddo sy’n gwerthu alcohol yn y sir ac rydym yn aml yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru ac awdurdodau eraill i godi ymwybyddiaeth o faterion cysylltiedig â chamddefnyddio alcohol ac yfed gormod.  Gyda misoedd yr haf ar y trothwy, hoffwn atgoffa pawb i yfed yn gyfrifol dros gyfnod barbeciws a phartis yr haf."

Sir Ddinbych

Meddai Cynghorydd David Smith, Aelod Blaen Cabinet Sir Ddinbych dros Ddiogelu’r Cyhoedd: "Rwy’n croesawu’r fenter hon gan ei bod yn dangos gwaith partneriaeth ar ei orau.  Mae gennym i gyd rôl i’w chwarae o ran diogelu ein preswylwyr drwy leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a’r problemau cysylltiedig.  Rydym yn gobeithio y bydd yr ymgyrch yn annog pobl i ystyried canlyniadau eu gweithredoedd."

Conwy

Meddai Cynghorydd Philip Evans, Aelod Cabinet Cyngor Conwy dros Reoleiddio: “Fel rhan o’r ymgyrch mae tîm Safonau Masnach a Thrwyddedu Conwy wedi trefnu sesiynau hyfforddi ar gyfer staff eiddo trwyddedig.  Bydd y tîm hefyd yn ymweld ag eiddo trwyddedig gyda’r nos ar y cyd â swyddogion Heddlu Gogledd Cymru i gynnig gwybodaeth a chyngor.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen