Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lansio Bagloriaeth Cymru mewn partneriaeth â Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru, Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) a Choleg Merthyr Tudful

Postiwyd

 

Ar ddydd Gwener 10fed Gorffennaf, bydd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru, mewn partneriaeth â Chyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) a Choleg Merthyr Tudful yn lansio cyd-raglen Bagloriaeth Cymru.

 

Mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub wedi bod yn cyflwyno rhaglen addysg i ysgolion am nifer o flynyddoedd, tra bo CBAC wedi bod yn rhedeg cymhwyster Bagloriaeth Cymru mewn ysolion am gyfnod tebyg. Gwnaed cynnig felly, a gafodd wedyn ei ddatblygu, i’r Gwasanaethau Tân ac Achub a CBAC weithio ar y cyd ar brosiect addysg i’w gyflwyno mewn ysgolion ledled Cymru – a’r prosiect hwnnw yw’r gyd-raglen Bagloriaeth Cymru.

 

Mae Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Huw Jakeway yn esbonio:

 

“Ar ran y tri Gwasanaeth Tân ac Achub, hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddweud fy mod wrth fy modd ac yn falch o weithio mewn partneriaeth gyda CBAC a Choleg Merthyr Tudful ar y syniad newydd a chyffrous hwn i gyflwyno addysg a diogelwch cymunedol yn ein hysgolion ledled Cymru”. 

 

“Dros y flwyddyn ddiwethaf cafwyd llawer iawn o frwdfrydedd ac ymrwymiad gan staff o’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub, CBAC a Choleg Merthyr Tudful gyda’r nod o gael ymgysylltiad llawn y Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru yn rhaglen Bagloriaeth Cymru a hoffwn ddiolch i chi i gyd am eich gwaith caled parhaus ar y prosiect”.

 

“Mae dysgu ac addysgu cyfoedion yn rhywbeth rydyn ni yn credu fedr agor drysau newydd i ni a lledaenu negeseuon Diogelwch Cymunedol i gynulleidfa ehangach tra’n gwneud y defnydd gorau o’n hadnoddau.”

 

Yn arwain ar y prosiect ar ran y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru, meddai’r Rheolwr Gorsaf, John Jenkins:

 

“Ar ôl blwyddyn o ddatblygu gan staff Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, staff CBAC a Dawn Price yng Ngholeg Merthyr Tudful, mae Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru, mewn partneriaeth â CBAC ac ysgolion a cholegau yng Nghymru wedi datblygu pedair her gyffrous ac ystyrlon y gall myfyrwyr Bagloriaeth Cymru eu cymryd nawr o fis Medi 2015”.

 

“Mae dysgu ac addysgu cyfoedion yn syniad newydd cyffrous i Wasanaethau Tân ac Achub Cymru gymryd rhan ynddo. Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o rannu ein negeseuon Diogelwch Cymunedol ac rwy’n credu, trwy gael disgyblion i ddatblygu prosiectau a lledaenu ein negeseuon Diogelwch Cymunedol i’w cyd-ddisgyblion ynghyd â grwpiau eraill yn eu cymunedau, y bydd yn gyfle delfrydol i gyrraedd pobl nad ydym wedi medru eu cyrraedd hyd yma.”

 

Meddai Dirprwy Brif Swyddog Dawn Docx o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn gweithio gyda’i gilydd i wella ein hymgysylltiad gyda phobl ifanc ledled Cymru.

“Rydym eisoes yn cysylltu â nifer amrywiol o grwpiau o bobl ifanc trwy gyfoeth o wahanol fentrau ac mae hyn yn ychwanegu at hynny  ac yn ein helpu i ymgysylltu ag unigolion mewn addysg a fyddai fel arall efallai’n cael eu hanwybyddu.

 

“Mae’n cynrychioli cam newydd cyffrous mewn dysgu ac addysgu cyfoedion ar gyfer y tri gwasanaeth tân ac achub – ac yn un yr ydym yn fach o fod yn rhan ohono.”

 

Meddai Mick Crennell, Dirprwy Brif Swyddog Tân o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:  “Mae hwn yn gyfle gwych i’r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru gryfhau ymhellach eu rôl o ran ymgysylltu gyda a gweithio gyda phlant ysgol. Mae’r prosiect hwn yn rhoi cyfleoedd newydd a chyffrous i ymwreiddio ein negeseuon diogelwch cymunedol yng nghwricwlwm yr Ysgol. Edrychaf ymlaen yn fawr iawn i’n Gwasanaeth ni yn medru cefnogi’r fenter hon i ddisgyblion ledled Cymru.”

 

Gan arwain ar y prosiect ar gyfer Coleg Merthyr Tudful, meddai Pennaeth Bagloriaeth Cymru, Dawn Price:  “Cred y coleg bod hwn yn gyfle cyffrous i’r Gwasanaeth Tân chwarae rhan wirioneddol mewn dyfarniadau addysgol i fyfyrwyr, gan gyfrannu’n uniongyrchol tuag at eu profiad addysgol a darparu profiad a chyngor uniongyrchol ar ddiogelwch cymunedol. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gweithio’n agos iawn gyda Tony Jackson o Wasanaeth Tân Merthyr ar amrywiol brosiectau, gan gynnwys gwaith elusen a chymunedol ac mae hyn yn teimlo fel y cam naturiol nesaf. Rydym yn falch iawn bod y prosiect wedi ei dderbyn ar lefel genedlaethol”.

 

"Mae Bagloriaeth Cymru yn ganolog i ddyfodol addysg yng Nghymru a bydd yn cynnig profiad unigryw a gwerthfawr i ddysgwyr. Rydym yn falch iawn o fedru cyhoeddi mai Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru yw’r sefydliad cyntaf i lansio eu Heriau, yn gysylltiedig â’r cymhwyster newydd. Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n gydweithredol gyda nifer o sefydliadau, elusennau a busnesau eraill i ddatblygu Briffiau Herio ar gyfer Bagloriaeth newydd Cymru." Caroline Morgan, Rheolwr Fframwaith Bagloriaeth Cymru, CBAC

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen