Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lansio Strategaeth Diogelwch ar y Ffyrdd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru 2015-2020

Postiwyd

Mewn ymateb i 'Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd i Gymru' Llywodraeth Cymru, bydd Strategaeth Diogelwch ar y Ffyrdd Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru yn cael ei lansio ar 20 Gorffennaf. Bydd y strategaeth hon yn rhoi fframwaith i'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru fel y gallant gyfathrebu a gweithredu ar eu hymrwymiadau i sicrhau diogelwch ar y ffyrdd, a hynny ar lefel genedlaethol a lleol. 

Dyma a ddywedodd Chris Davies, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Mae diogelwch ar y ffyrdd wedi gwella'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Adroddwyd bod 8,208 o bobl wedi cael eu hanafu neu eu lladd yn 2014 o ganlyniad i wrthdrawiadau traffig ffyrdd yng Nghymru. Mae'r ffigur hwn dros draean yn is na nifer y rhai a gafodd eu hanafu neu eu lladd ar ein ffyrdd 10 mlynedd yn ôl.
Tra bo nifer y digwyddiadau wedi gostwng, mae'r ystadegau'n dangos cynnydd o 12% y llynedd yn nifer y bobl a gafodd eu hanafu'n ddifrifol ar ein ffyrdd. Y prif reswm dros y gwrthdrawiadau hyn oedd gyrru gwael a gwyliadwriaeth wael. 
Er bod llawer wedi cael ei gyflawni o ganlyniad i gydweithio â'n partneriaid diogelwch ar y ffyrdd, mae'n amlwg bod angen gwneud llawer mwy.  
O gymharu â grwpiau eraill o bobl, mae nifer afresymol o ddefnyddwyr ffyrdd hyglwyf, yn cynnwys pobl ifanc (16 i 24 oed) a beicwyr modur, yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol.
O'r holl bobl sydd â thrwydded yrru, 11% yn unig sy'n bobl ifanc, ac eto maent yn cynrychioli 23% o'r bobl sy'n cael eu hanafu neu eu lladd mewn gwrthdrawiadau traffig ffyrdd yng Nghymru. 
Beicwyr modur oedd 37% o'r rhai a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiadau traffig ffyrdd, ac eto nid ydynt yn cyfrif am fwy nag 1% o'r holl draffig ffyrdd yng Nghymru. Nid yw beicwyr modur o anghenraid i'w beio am wrthdrawiadau, ond am eu bod yn hyglwyf maent yn llawer mwy tebygol o gael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol. Tra bo beicwyr modur o bob math yn gysylltiedig â gwrthdrawiadau, mae nifer afresymol yn ddynion sy'n reidio ar ffyrdd gwledig yn ystod y misoedd sychach. 
Cymru sydd â'r boblogaeth fwyaf oedrannus yn y Deyrnas Unedig, ac mae'r amcanestyniadau yn arwyddo y bydd hynny'n parhau. Mae tua 1 ym mhob 20 gyrrwr sy'n gysylltiedig â gwrthdrawiadau traffig ffyrdd yng Nghymru yn 70 oed neu'n hŷn. Mae gyrwyr hŷn yn aml wedi bod â thrwydded am nifer fawr o flynyddoedd ac ni fydd y mwyafrif helaeth wedi cael mwy o hyfforddiant ers pasio'u prawf gyrru, er gwaethaf newidiadau mawr o ran amodau gyrru ac, o bosibl, o ran eu gallu eu hunain.
Yn greiddiol i'r strategaeth diogelwch ar y ffyrdd heddiw mae ymdrech gydgysylltiedig i addysgu defnyddwyr y ffyrdd, a bydd y rhai hynny sy'n cael eu hadnabod fel y grwpiau mwyaf hyglwyf yn cael eu targedu'n benodol. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys amrediad o weithgareddau, ymyraethau a chyhoeddusrwydd sy'n arwain at newid mewn ymddygiad. 
Mae'r strategaeth hon yn amlinellu sut y bydd y Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru i barhau i ostwng nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Cymru, gyda'r uchelgais yn y pen draw o sicrhau na fydd neb yn cael ei ladd.”  
Dywedodd Simon Brown, Rheolwr yr Orsaf ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Mae Strategaeth Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru Gyfan (2015 – 2020) yn annog Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru a'u partneriaid i gydweithio er mwyn nodi risgiau lleol yn eu hardaloedd ac er mwyn datblygu dull wedi'i dargedu o fynd ati i ostwng nifer y marwolaethau a'r anafiadau ar ffyrdd Cymru. 
Fel y cyfryw, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn falch o allu parhau i gydweithio â'n partneriaid ar y strategaeth hon ac ar weithgareddau cysylltiedig sy'n anelu at wneud ein cymunedau a'n ffyrdd yn fwy diogel ac at achub bywydau." 
Dywedodd Stuart Millington, Uwch-reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae gan y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru un amcan cyffredin sydd wrth wraidd popeth a wnawn - cydweithio er mwyn sicrhau Cymru fwy diogel.”
“Rydym yn hynod falch o fod yn rhan o Strategaeth Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru Gyfan. Bydd y strategaeth hon yn parhau i sicrhau ein bod yn cydweithio cystal ag y gallwn yn y Gwasanaethau Tân ac Achub ledled Cymru, a chyda'n hasiantaethau partner, er mwyn i ffyrdd Cymru fod mor ddiogel â phosibl. 
“Fel rhan o'r strategaeth hon, rydym yn edrych ar amrywiaeth o ddulliau y gall sefydliadau eu rhoi ar waith er mwyn gwella diogelwch ar y ffyrdd. Mae'r rhain yn cynnwys hyfforddiant, addysg, cyhoeddusrwydd, rhannu gwybodaeth a gwerthuso. Trwy gyfuno'r rhain i gyd, gobeithiwn y gallwn wella diogelwch ar y ffyrdd ledled Cymru.”
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen