Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd yn dilyn tân sosban sglodion yn Drury

Postiwyd

 

 

Mae swyddog tân wedi cyhoeddi rhybudd ynglŷn â pheryglon gadael bwyd yn coginio yn dilyn tân sosban sglodion ym Mwcle ddoe.

 

Anfonwyd injan o Fwcle i’r eiddo ar Pinewood Road, Drury am 5.58pm o’r gloch, 23 Gorffennaf wedi i larwm mwg a osodwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru seinio rhybudd a thynnu sylw’r preswylydd o’r tân yn y gegin.

 

Meddai Dave Roberts, Rheolwr Partneriaeth Sir y Fflint a Wrecsam: “Fe gariodd y preswylydd y sosban alla o’r eiddo ac o ganlyniad fe ddioddefodd losgiadau i’w freichiau ac i’w ben. Hoffem bwysleisio mae’i peth callaf i'w wneud os bydd tân yw cau’r drws a mynd allan o’r eiddo cyn gynted â phosib a galw 999.  Peidiwch â cheisio taclo’r tân eich hun na symud eitemau sydd ar dân.

 

“Cludwyd y dyn i’r ysbyty yn dioddef o losgiadau difrifol.

 

“Roedd y tân wedi ei gyfyngu i’r gegin ac fe achosodd ddifrod mwg 100% i’r gegin a dinistriodd y sosban sglodion yn llwyr.

 

“Fe all gadael sosban sglodion yn llosgi, hyd yn oed am eiliad, fod yn drychinebus gan fod modd i’r olew orboethi a mynd ar dân - fe all hyd yn oed peth lleiaf dynnu’ch sylw ac achosi tân mewn ychydig eiliadau.

 

“Mae sglodion popty neu ffrïwyr aer yn opsiwn llawer iawn mwy diogel ond os ydych yn dewis ffrio mewn saim dwfn cofiwch gadw llygaid arno. Os aiff eich sosban sglodion ar dân, peidiwch â thaflu dŵr arni.  Ewch alla, arhoswch allan a galwch 999. Peidiwch byth â cheisio diffodd y tân eich hun.

 

“Neu well fyth - taflwch eich hen sosban sglodion a defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli’r gwres.”

 

 “Fe all tân bychan ddatblygu i fod yn dân difrifol a pheryg bywyd mewn ychydig funudau. Os bydd tân yn cynnau a chithau yn eich gwely, rydych mewn trwbl – drwy anadlu dim ond ychydig o fwg fe allwch gael eich taro’n anymwybodol.”

 

Os ydych yn dewis ffrio mewn saim dwfn, dilynwch ein cyngor i leihau’r perygl o dân;

 

• Peidiwch â gorlenwi’r sosban gydag olew -  ni ddylech ei llenwi fwy na thraean 


• Byddwch yn ofalus rhag i’r olew orboethi – fe all olew poeth fynd ar dân yn  hawdd iawn


• Defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli’r gwres a gwnewch yn siŵr nad ydy’r olew yn rhy boeth

   
• Peidiwch byth a thaflu dŵr ar sosban sglodion


• Ar lwgu ar ôl noson allan?  Peidiwch â choginio r ôl yfed alcohol  


• Lluniwch gynllun dianc fel eich bod yn gwybod beth i’w wneud mewn achos o dân


• Peidiwch â chymryd risgiau drwy geisio taclo’r tân eich hun. Ewch allan, arhoswch allan a galwch 999.


• Gosodwch larwm mwg a phrofwch ef yn rheolaidd

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim.  Fel rhan o’r archwiliad bydd aelod  o’r Gwasanaeth yn dod i’ch cartref i rannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg newydd – a’r cyfan am ddim. Mae’r gwasanaeth ar gael i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.

 

I gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref galwch ein rhif rhadffôn dwyieithog ar  0800 169 1234 neu ewch i www.larwmmwgamddim.co.uk

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen