Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Allech chi fod yn ddiffoddwr tân? Diwrnodau Gweithredu Positif i ddenu merched a lleiafrifoedd ethnig i’r gwasanaeth tân ac achub

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnal dau Ddiwrnod Gweithredu Positif yng Ngorsaf Dân Gymunedol y Rhyl ar y 19eg o Awst a’r 7fed o Fedi i annog merched a phobl o gefndiroedd ethnig du neu leiafrifol i ystyried gyrfa fel diffoddwr tân.

 

Nod y Gwasanaeth yw sicrhau gweithlu sydd yn adlewyrchu’r gymuned amrywiol y mae’n ei gwasanaethu, er mwyn helpu i ddarparu gwasanaeth tân ac achub o’r safon uchaf i bobl y Gogledd.

 

Mae Llinos Gutierrez Jones, Rheolwr Adnoddau Dynol yn egluro: “Ar hyn o bryd mae’r nifer o ferched neu bobl o gefndiroedd ethnig du neu leiafrifol sy’n rhan o’n gweithlu lawer iawn yn is na’r hyn yr hoffem ni ei weld mewn gwasanaeth tân ac achub modern.

 

“Gyda hyn mewn golwg byddwn yn cynnal dau ddiwrnod gweithredu positif gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth ymysg grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli yn ein gweithlu – mae’r rhain yn cynnwys merched a phobl o grwpiau ethnig du a lleiafrifol.

 

“Nod y diwrnod yw rhoi cyfle i bobl gael gwybod mwy am yrfa fel diffoddwr tân a’r broses ddethol.

 

“Nid fydd y diwrnodau gweithredu positif yn gwarantu swydd i unrhyw un o ryw neu hil benodol – byddwn yn cyflogi ar sail teilyngdod ac y mae disgwyl i bawb gyrraedd yr un safon.

 

“Os ydych chi’n perthyn i un o’r grwpiau hyn sydd wedi eu tangynrychioli ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa fel diffoddwr tân, galwch ni ar 01745 535292 – dim ond nifer gyfyngedig o lefydd sydd ar gael.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen