Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Gwasanaethau Tân ac Achub yn Nghymru ar fin recriwtio

Postiwyd

Mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru wedi dod at ei gilydd i lansio ymgyrch recriwtio ar gyfer Cymru gyfan i chwilio am ddiffoddwyr tân amser cyflawn i weithio ledled Cymru.

 

Mae’r gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru yn chwilio am unigolion ag ysbryd cymunedol sy’n credu’n gryf mewn diogelwch ac sy’n gallu dangos y sgiliau sy’n berthnasol i’r gwasanaeth tân ac achub modern.

 

Mae rôl diffoddwyr tân wedi newid dros y blynyddoedd, ac erbyn hyn maent yn treulio rhan fawr o’u hamser yn gwneud gwaith addysgu ac atal tanau yn ogystal â mynd at ddigwyddiadau gweithredol.

 

Dylai unrhyw un sydd eisiau gwneud cais gofrestru ar system ar-lein drwy un o wefannau’r Gwasanaethau yn ystod y dyddiadau a’r amseroedd isod:

 

Y gofrestr ar-lein yn agor – 06:00 ddydd Llun 28ain Medi

Y gofrestr ar-lein yn cau – 23:59 nos Fawrth 29ain Medi

 

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru http://www.tancgc.gov.uk

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru www.gwastan-gogcymru.org.uk Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymruwww.decymru-tan.gov.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen