Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dwyn i’r amlwg bwysigrwydd larymau mwg gweithredol wedi i deulu ddianc o dân yn y Rhyl

Postiwyd

 

Mae swyddogion tân yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg gweithredol wedi i ddynes, ei chwech o blant a’i wŷr gael dihangfa lwcus o dân yn eu cartref yn y Rhyl. 

Fe anfonwyd dau beiriant i’r tân yn yr eiddo yn Palace Avenue am 22.42 o’r gloch Ddydd Mercher 23ain Medi. 

Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân bedair set o offer anadlu a dwy bibell dro i ddiffodd y tân. Llwyddodd pawb i adael yr adeilad yn ddiogel.  

Mae ymchwiliad i achos y tân nawr ar y gweill.  Bu i’r ddynes 40 oed ddioddef mân losgiadau i’w dwylo a chafodd y teulu cyfan driniaeth yn y fan a’r lle o ganlyniad i anadlu mwg cyn cael eu cludo i’r ysbyty am driniaeth ragofalol. 

Meddai Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych:  “Ni allaf bwysleisio digon pa mor ffodus ydy’r trigolion hyn eu bod wedi llwyddo i ddianc o’r tân yn fyw.

“Roeddent yn gwylio’r teledu pan fu i un o’r plant arogli mwg cyn sylweddoli bod gwely ar dân mewn ystafell wely ar y llawr gwaelod. 

 “Fe all tân ledaenu’n gyflym iawn, ac oni bai eich bod yn canfod y tân yn gynnar drwy ddefnyddio larymau mwg rydych yn fwy tebygol o farw mewn tân yn eich cartref. Mae’r digwyddiad hwn yn amlygu pa mor gyflym y gall tân ddatblygu yn ddiarwybod i chi. 

 “Rydych yn chwarae gêm beryglus iawn drwy beidio â gosod larymau mwg yn eich cartref.  Pam peryglu’ch bywyd chi a’ch anwyliaid?

 “Mae’n hanfodol eich bod yn gosod larymau mwg gweithredol yn eich cartref er mwyn eich cadw’n ddiogel – maent yn rhoi rhybudd cynnar o dân er mwyn rhoi cyfle i chi ddianc yn ddianaf.  Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch yn y cartref yn rhad ac am ddim i bawb yng Ngogledd Cymru. I gofrestru am archwiliad galwch 0800 169 1234 unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos neu ewch i’n gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk."

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen