Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Peilot Cyd-ymateb yn fyw yng Ngogledd Cymru

Postiwyd

Mae'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cydweithredu wrth lansio cynllun peilot newydd ledled Cymru, gan weithio gyda'i gilydd i achub bywydau.

Mae Llywodraeth Cymru a'r holl gyrff cyhoeddus yn ymroddedig i wella ansawdd gwasanaethau a ddarperir i'r cyhoedd yng Nghymru. Un o alluogwyr allweddol gwella yw lefel uwch o bartneriaeth i gyflwyno gwasanaethau sy'n diwallu anghenion lleol ac yn gwneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Y bwriad yw gwella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir i gymunedau Cymru a disgwylir y bydd y peilot yn parhau ledled Cymru tan fis Mehefin 2016.


Bydd yn digwydd mewn ardaloedd ymateb daearyddol penodol ac efallai y bydd aelodau'r cyhoedd sy'n byw yn yr ardaloedd hyn sydd angen cymorth mewn argyfwng ar gyfer digwyddiad meddygol yn derbyn ymateb gan eu gwasanaethau Tân ac Achub lleol.

Y mis hwn, aeth y peilot yn fyw yng Ngogledd Cymru - ar hyn o bryd mae diffoddwyr tân yng Nghaergybi, Treffynnon, Bae Colwyn a Phwllheli yn cymryd rhan gweithredol yn y peilot. Bydd staff o Langollen a Dolgellau yn ymuno â'r peilot yn yr wythnosau i ddod ar ôl cwblhau'r mesurau angenrheidiol i fodloni gofynion Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.


Bydd timau cyd-ymateb yn cael eu hanfon trwy ystafell reoli'r gwasanaeth tân, yn unol â chyfarwyddyd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Ni fydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn anfon peiriannau tân allan fel rhan o'r Peilot Cyd-ymateb ond bdd criwiau o ddau yn cael eu hanfon allan mewn car ac yn mynd i ddigwyddiadau ar gyflymder arferol y ffordd a heb oleuadau gleision.


Yn y cerbydau bydd offer arbenigol yn galluogi i'r staff sydd wedi eu hyfforddi yn arbennig i ymateb i set o amodau clinigol penodol lle gallant hwy gyrraedd yn gyntaf, a lle byddant yn ychwanegu'r gwerth mwyaf yn gymesur â'u hyfforddiant a'u offer. Mae hyn yn cynnwys trawiadau ar y galon, pobl sy'n anymwybodol neu'n tagu, a gwaedu catastroffig.


Gan siarad ar ran y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru, meddai Prif Swyddog Tân Cynorthwyol De Cymru, Andrew Thomas: "Mae'r peilot hwn yn gyfle i ni weithio'n agosach â'n gilydd er budd y cyhoedd yng
Nghymru, gan wella gwaith cydweithredol rhwng y gwasanaethau argyfwng i sicrhau gwell ymateb gweithredol, cynyddu gwasanaethau gweithredol a gwella gwytnwch - ychwanegu gwerth go iawn am arian tra'n gweithio'n fwy effeithiol ac effeithlon."


Meddai Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Richard Fairhead: "Hoffem sicrhau trigolion ledled Cymru na fydd unrhyw leihad o gwbl mewn ymateb i argyfwng a chyflwyniad gwasanaeth,
gan y gwasanaethau tân ac achub ledled Cymru na chan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ystod cyfnod y cynllun peilot.


"Bydd y peilot yn golygu anfon ymatebwyr sydd wedi eu hyfforddi'n addas a fydd yn gweithio i ddiogelu bywyd nes bydd ambiwlans neu gerbyd ymateb cyflym yn cyrraedd.


"Bydd union natur y peilot yn amrywio ym mhob rhanbarth Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru ond bydd y nod cyffredinol o weithio gyda'n gilydd i achub bywydau yn agwedd gyffredin yn y tri rhanbarth."


Meddai Greg Lloyd, Pennaeth Gweithrediadau Clinigol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Mae pob eiliad yn cyfrif mewn argyfwng. Os gall ein cydweithwyr yn y gwasanaeth tân gyrraedd y lleoliad cyn un o'n ambiwlansys ni, medrent ddechrau rhoi triniaeth i achub bywyd - gall hyn ond gwella cyfle'r claf hwnnw o oroesi.


"Mae holl gyd-ymatebwyr yn cael eu hyfforddi i roddi triniaeth sy'n achub bywyd, gan gynnwys CPR a defnyddio diffibriliwr. Rhaid i ni bwysleisio na fyddant yn disodli ymateb arferol parafeddyg mewn car ymateb cyflym neu ambiwlans argyfwng, ond bydd yn ffurfio rhan o agwedd integredig tuag at roddi triniaeth ar unwaith, i achub bywyd cleifion yn ein cymunedau.

 

"Mae cyd-ymatebwyr yn chwarae rôl bwysig gyda staff rheng flaen ambiwlans o ran gwneud yn siwr bod cleifion yn cael yr help priodol yn gyflym ac yn effeithlon, ac maent yn rhan o deulu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru."


Mae'r peilot yn dilyn cynlluniau tebyg sy'n cael eu lansio gan gyfanswm o 43 o
wasanaethau tân ac Achub ledled y Deyrnas Unedig. Ar ddiwedd cyfnod y peilot,
bydd gwerthusiad manwl i benderfynu os oedd y peilot yn llwyddiant.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen