Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub yn gweithio gyda Rygbi Gogledd Cymru 1404 i hyrwyddo Wythnos Diogelwch Ffordd

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymuno â Rygbi Gogledd Cymru (RGC) 1404 i annog gyrwyr i feddwl am ddiogelwch y tu ôl i'r llyw a gwneud ‘Adduned Brecio’ ar gyfer Wythnos Genedlaethol Diogelwch Ffordd (21ain – 27ain Tachwedd).

 

­Fel y mae Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru  ­yn esbonio: “Fel diffoddwyr tân, rydym yn gweld drostym ein hunain effeithiau erchyll gwrthdrawiadau ar y ffordd.

 

“Mae pump o bobl yn cael eu lladd bob dydd gan rywbeth rydym eisoes yn gwybod sut i’w ddatrys. Mae ein ffyrdd yn beryglus, lle mae cannoedd a farwolaethau ac anafiadau difrifol yn digwydd bob wythnos.

 

“Ond trwy newid ein hymddygiad wrth yrru, medrwn wneud ein pentrefi, ein trefi a’n dinasoedd yn fannau diogelach. Mae popeth rydyn ni yn ei wneud, fel gyrwyr neu deithwyr, yn medru newid canlyniad taith a dyfodol teulu.

 

“Rydym yn gweithio i addysgu pobl ynglŷn a phwysigrwydd gyrru trwy gydol y flwyddyn, a gwelwn y bartneriaeth hon gydag RGC 1404 fel cyfle perffaith i roi sylw i ddiogelwch y tu ôl i’r llyw i holl fodurwyr, gan gynnwys cefnogwyr a chwaraewyr ledled Gogledd Cymru sy’n rheolaidd yn treulio oriau ar y ffordd yn teithio i gemau neu hyfforddiant.”

 

Mae Stuart yn apelio i fodurwyr gymryd yr ‘Adduned Brecio’ sy’n canolbwyntio ar chwe elfen – Araf, Sobr, Diogel, Distaw, Craff a Chynaliadwy.

 

Mae’n ymuno gydag RGC 1404 i apelio i bawb i wneud a rhannu’r Adduned Brecio arlein yn www.roadsafetyweek.org.uk , a dangos eu hymrwymiad i achub bywydau a chadw ein ffyrdd yn ddiogel.

 

Ychydig o ffeithiau yn esbonio pam fo’r adduned yn bwysig:

  • Araf: Mae torri’r cyfyngiad cyflymder neu deithio’n rhy gyflym i’r amodau yn cael ei gofnodi gan yr heddlu adeg gwrthdrawiad fel ffactor sy’n cyfrannu at fwy nag un o bob pedwar (27%) o wrthdrawiadau angheuol ym Mhrydain.
  • Sobr: Gall hyd yn oed un ddiod cyn mynd y tu ôl i’r llyw effeithio ar eich gallu i yrru. Yn 2013, roedd gan un ym mhob 10 (11%) o yrwyr/beicwyr modur mewn gwrthdrawiad alcohol yn bresennol yn eu corff, er nad oeddynt dros y cyfyngiad gwaed-alcohol cyfreithlon. Mae un ym mhob saith o farwolaethau ar y ffordd oherwydd bod rhywun wedi gyrru dros y cyfyngiad.
  • Diogel: Mae rhai gyrwyr o hyd yn ystyried gwregysau diogelwch fel niwsans, ond mae defnyddio un yn lleihau’r siawns o farw mewn gwrthdrawiad 50%. Roedd 21% o bobl mewn ceir a gafodd ei lladd mewn gwrthdrawiad heb wisgo gwregys.
  • Distaw: Mae gyrwyr sy’n perfformio tasg eilaidd gymhleth, fel defnyddio ffôn symudol wrth y llyw, dair gwaith yn fwy tebygol o gael gwrthdrawiad na gyrwyr sy’n canolbwyntio ar yrru.
  • Craff: Mae profion llygaid rheolaidd yn rhywbeth a ddylai fod ar dop rhestr pob gyrrwr. Ystyrir bod gwrthdrawiadau oherwydd golwg gwael gyrwyr yn achosi 2,900 o anafiadau ac yn costio £33 miliwn i’r DU bob blwyddyn.
  • Cynaliadwy: Trwy leihau faint rydym yn ei yrru, a cherdded, beicio neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus, rydym yn gwneud ein cymunedau yn fannau diogelach, ac yn gwneud y gorau a fedrwn ar ran yr amgylchedd a’n hiechyd ein hunain. Mae llygredd awyr yn lladd: amcangyfrifir bod 29,000 o farwolaethau bob blwyddyn oherwydd llygredd grynonnynol yn y DU, a gellir priodoli 5,000 o’r rhain i gludiant ffordd.

 

 

Ychwanegodd Stuart: “Addunedwch i ganolbwyntio ar y pethau syml hyn i achub bywydau yn ystod yr Wythnos Diogelwch Ffordd eleni. Rydym yn falch  o weithio mewn partneriaeth ag RGC 1404 ar yr ymgyrch hon, a byddwn yn adeiladu ar hyn trwy gyflwyno sesiynau wyneb yn wyneb gyda chwaraewyr ar ddiogelwch ffordd yn y misoedd i ddod.

 

“Mae partneriaethau fel hyn yn allweddol o ran anfon neges i’r gymuned a byddwn yn parhau i weithio gydag RGC 1404 ac yn cyfleu negeseuon hollbwysig i gefnogwyr a chwaraewyr fel ei gilydd dros y misoedd i ddod.”

 

Ychwanegodd Sion Jones, Rheolwr Cyffredinol ar gyfer Rhanbarth Datblygu Gogledd Cymru ac RGC 1404: “Roeddem yn falch o gael chwarae rhan yn yr ymgyrch i hyrwyddo diogelwch y tu ôl i’r llyw a’r ‘Adduned Brecio’ fel rhan o Wythnos Diogelwch Ffordd 2016.

 

“Mae diogelwch ein chwaraewyr a’n cefnogwyr yn hollbwysig i ni, ac fe wnawn bopeth a fedrwn i helpu Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i gyflwyno eu negeseuon, a allai achub bywydau.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen