Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cefnogaeth i drigolion Bolingbroke Heights, Y Fflint

Postiwyd

 

 

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i roi cymaint o gefnogaeth â phosib i drigolion Bolingbroke Heights yn y  Fflint wedi i ddŵr gael ei ryddhau yn ystod ymarfer a oedd wedi cael ei drefnu ddydd Iau 1 Tachwedd.

 

Cynhaliwyd cyfarfod gyda thrigolion i roi sicrwydd i’r rai a gafodd eu heffeithio ein bod yn cydweithio i adfer eu cartrefi i’r un cyflwr ac yr oeddent cyn y digwyddiad. Cafodd trigolion gyfle i ofyn cwestiynau gan y rhai hynny sydd yn rhan o’r gwaith adfer.

 

Meddai Chris Nott, Uwch Reolwr Hyfforddiant a Datblygiad Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

 

“Ein blaenoriaeth yw cynnig cymaint o gefnogaeth i drigolion â phosib fel bod eu cartrefi yn cael eu hadfer i’r un cyflwr ac yr oeddent cyn y digwyddiad – ac ar ran Cyngor Sir y Fflint a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, hoffwn ddiolch i’r trigolion am eu hamynedd a’u dealltwriaeth.

 

“Yn amlwg, y brif flaenoriaeth a’r ffocws yw gwneud yn siŵr bod pawb yn ddiogel ac adfer yr holl systemau a effeithiwyd arnynt yn yr adeilad  gan y dŵr.

 

“Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru  a Chyngor Sir y Fflint wedi cyfathrebu’n rheolaidd ers y digwyddiad, gan weithio i adref cartrefi’r trigolion. Mae’r gwaith hwn wedi cael ei drefnu ar y cyd fel bod y gwaith adfer  angenrheidiol yn cael ei gwblhau mor rhwydd â phosib i drigolion a thrwy un pwynt cyswllt gyda’r yswiriwr. “

 

Meddai Clare Budden, Prif Swyddog Cymunedau a Menter Cyngor Sir y Fflint: “Roedd y tîm ‘y tu allan i oriau’ yn bresennol yn ystod y digwyddiad yn ogystal â’r Swyddog Cefnogi Llety a chontractwyr arbenigol, ac rydym wedi parhau i gefnogi’r trigolion drwy gydol y mater.

 

“Ein ffocws yw sicrhau bod popeth yn cael ei adfer ar gyfer trigolion cyn gynted â phosib – mae hyn wedi cymryd mwy o amser nad yr oeddem yn ei ddymuno ,fodd bynnag mae mesurau bellach ar waith ac mae’r Aseswr Colledion a’r yswirwyr wedi ymweld â’r safle i helpu i symud ymlaen gyda’r gwaith sy’n angenrheidiol.”

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen