Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Atgoffa perchnogion siopau i ‘gadw at y rheoliadau diogelwch tân’ dros yr ŵyl

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn atgoffa perchnogion siopau a busnesau i fod yn gyfrifol a sicrhau eu bod yn glynu at y rheoliadau diogelwch tân dros ŵyl y Nadolig.

 

Yr adeg hon o’r flwyddyn, mae gan lawer o fusnesau megis siopau a chyflenwyr fwy o stoc nag arfer, gyda chynnydd mewn gwerthu a galw am gyflenwadau – ond mae’n hanfodol bod busnesau yn aros yn wyliadwrus a sicrhau nad yw rheoliadau diogelwch tân yn cael eu hanghofio.

 

Meddai Pennaeth Diogelwch Tân Busnes Paul Jenkinson: “Rydym yn annog perchnogion siopau i sicrhau nad ydynt yn mynd yn groes i reoliadau diogelwch tân o ganlyniad i’r cynnydd mewn stoc dros y Nadolig ac yn ystod arwerthiant y flwyddyn newydd.

 

“Y peth olaf y mae rhywun ei eisiau yw perygl tân a fyddai nid yn unig yn niweidio eich busnes a siomi cwsmeriaid, ond yn waeth, a allai achosi anaf neu fygwth bywydau.

 

“Mae ein neges yn syml – peidiwch â chadw gormod o stoc a byddwch yn ymwybodol o ragofalon diogelwch tân.

 

“Ein canllaw ni yw:

 

  • *Sicrhewch bod llwybrau i allanfeydd tân yn glir
  • *Sicrhewch bod drysau allan yn agor yn hawdd
  • *Peidiwch â blocio mannau larwm galw neu offer diffodd tân

  

“Mae mwy o wybodaeth a chyngor i fusnesau ar gael yn www.gwastan-gogcymru.org.uk .”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen