Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn Gwesty ar Lannau Dyfrdwy

Postiwyd

 

Mae diffoddwyr tân ar hyn o bryd yn delio gyda thân mewn gwesty ar Welsh Road yng Nglannau Dyfrdwy.

 

Fe’u galwyd i’r tân am 04.27 o’r gloch fore heddiw (Llun, 18fed Rhagfyr).

 

Mae saith peiriant tân, un o’r Fflint, yr Wyddgrug, Bwcle, Wrecsam a Chaer a dau o Lannau Dyfrdwy, ynghyd â dau lwyfan ysgol uchel yn bresennol yn y digwyddiad.

 

Wrth gyrraedd, cafodd diffoddwyr tân bod lofft yr adeilad ar dân a defnyddio pedair set o offer anadlu, dwy bibell chwistrellu dŵr a dwy brif bibell i ddelio gyda’r tân.

 

Mae’r holl drigolion a’r staff yn y gwesty yn iawn ac wedi eu tywys i le diogel.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen