Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Achub tad a mab wedi i sosban sglodion fynd ar dân ym Mwcle

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân wedi achub tad a mab o dân mewn tŷ ym Mwcle yn ystod oriau mân y bore yma (Dydd Iau 2 Mawrth 2017).

Fe anfonwyd dwy injan dân o Lannau Dyfrdwy a Bwcle i’r digwyddiad yn Lyme Grove, Bwcle am 00.25 o’r gloch wedi i gymydog glywed larwm mwg yn seinio yn yr eiddo.

Achubwyd dyn 24 oed a bachgen pedair oed o’r eiddo a chawsant driniaeth yn y fan a’r lle oherwydd eu bod wedi anadlu mwg. 

Mae’r digwyddiad unwaith eto’n amlygu peryglon gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno – achoswyd y tân gan sosban sglodion ac y mae wedi digwydd ychydig ddyddiau wedi tân sosban sglodion arall   yn Wrecsam  yr wythnos diwethaf (27 Chwefror) a oedd yn cyd-daro ag ymgyrch diweddar gan y gwasanaeth tân ac achub i annog pobl i wneud i ffwrdd â’u sosbenni sglodion yn ystod Wythnos Genedlaethol Sglodion (15 Chwefror).

Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân bedair set o offer anadlu a phibell dro i ddiffodd y tân a oedd wedi cael ei gyfyngu i’r gegin.

Meddai Jami Jennings o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Yn ffodus iawn, roedd larymau mwg gweithredol yn yr eiddo ac fe glywodd un o’r cymdogion larwm yn seinio a’n rhybuddio. Pan gyrhaeddom, roedd y gegin yn llawn mwg. Llwyddom i fynd i mewn i’r eiddo i achub y tad a’r mab a chyfyngu’r tân i ardal y gegin.

“Roedd y tad wedi syrthio i gysgu wrth wylio’r teledu ac roedd wedi gadael sosban sglodion ar y gwres - oni  bai am y rhybudd gan y larwm mwg a’r cymydog gwyliadwrus fe allwn, yn hawdd iawn, fod wedi gorfod delio gyda digwyddiad llawer iawn mwy difrifol gyda chanlyniadau difrifol. 

“Fe all gadael sosban sglodion ar y gwres, hyd yn oed am eiliad, fod yn drychinebus gan fod modd i’r olew orboethi a mynd ar dân - fe all tân bychan ddatblygu i fod yn dân difrifol a pheryg bywyd mewn ychydig funudau. Os bydd tân yn cynnau a chithau yn eich gwely, rydych mewn trwbl – drwy anadlu dim ond ychydig o fwg fe allwch gael eich taro’n anymwybodol.

"Dro ar ôl tro rydym wedi gweld nad oes lle i fod yn esgeulus ac felly rydym yn annog pobl i wneud i ffwrdd â’u sosbenni sglodion yn gyfan gwbl a defnyddio ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli’r gwres. Mae sglodion popty hefyd yn opsiwn mwy diogel ac iach. Peidiwch byth â gadael bwyd yn coginio a pheidiwch â choginio os ydych wedi bod yn yfed alcohol.” 

“Fel y gwelwn yn y digwyddiad hwn - drwy wneud yn siŵr bod gennych larwm mwg gweithredol rydych yn fwy tebygol o ddianc yn ddianaf mewn achos o dân. Gwnewch yn siŵr eich bod yn profi’ch larwm mwg yn rheolaidd. Mewn achos o dân ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch 999.”

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen