Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cwpl yn clywed larwm mwg a ffonio 999

Postiwyd

Mae cwpl a ffoniodd 999 ar ôl clywed larwm mwg yn seinio wedi helpu i achub dyn o dân mewn eiddo yn Ambrose Street, Bangor yn ystod oriau mân y bore yma (Dydd Iau Mawrth 9fed).

Cafodd criw o Fangor a Phorthaethwy eu galw i’r eiddo am 00.38 o’r gloch ar ôl derbyn galwad 999 a oedd yn adrodd bod larwm mwg yn seinio a bod mwg yn dod o’r eiddo.

Cyrhaeddodd y gwasanaethau brys a chafodd dyn, a oedd yn yr eiddo ar adeg y tân, ei gludo i’r ysbyty oherwydd ei fod wedi anadlu mwg.

Fe ddefnyddiodd y criwiau ddwy set o offer anadlu a dwy bibell dro i ddiffodd y tân. Credir bod y tân wedi ei achosi wedi i fflam noeth roi gobennydd ar dân.

Meddai Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn: “Unwaith eto mae’r digwyddiad yn amlygu gallu larymau mwg i achub bywydau. Oni bai bod y larwm mwg yma wedi seinio a rhybuddio’r cwpl a oedd y tu allan i’r eiddo ar adeg y tân, fe allai’r canlyniadau fod wedi bod yn wahanol iawn.

 "Roedd y preswylydd yn ffodus iawn bod y cwpl wedi clywed y larwm a gweithredu fel ac y gwnaethant – hoffwn eu cymeradwyo am gysylltu â’r gwasanaeth tân ac achub ar unwaith ac am helpu i amddiffyn eu cymuned yn y modd hwn.

“Drwy gael larwm mwg gweithredol rydych yn fwy tebygol o ddianc o dân yn ddianaf. Profwch eich larwm yn rheolaidd, ac oes bydd tân ewch allan, arhoswch allan a galwch 999.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen