Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd am ddiogelwch trydanol ar ôl tân yng Ngellilydan

Postiwyd

Mae Swyddogion Tân yn rhybuddoi trigolion o beryglon tanau trydanol ar ôl tân mewn tŷ yng Ngellilydan, Blaenau Ffestiniog.

 

Galwyd criwiau o Harlech, Betws y Coed a’r Bala i’r eiddo yng Ngellilydan, Blaenau Ffestiniog brynhawn ddoe (Dydd Iau Mawrth 30) am 13.34 o’r gloch.

 

Defnyddiodd diffoddwyr tân ddwy brif bibell, dwy bibell rîl a chwe set o offer anadlu i ddelio â’r tân.

 

Roedd y tŷ yn wag ar y pryd ac yn cael ei ailwampio. Achosodd y tân, a ddechreuodd yn yr ystafell fyw, 90% o ddifrod tân i’r eiddo cyfan.

 

Tybir mai cebl estyniad a oedd wedi ei lapio i fyny ac wedi gorboethi oedd achos y tân.

 

Meddai Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol ar Gwynedd a Môn:

 

"Mae’n bwysig defnyddio offer yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gwirio eitemau trydanol a cheblau am arwyddion o ddifrod. Mae llawer o drigolion yn defnyddio ceblau estyniad sydd wedi eu lapio ac argymhellwn eu bod yn cael eu dad-weindio’n llwyr cyn eu defnyddio.

 

“Mae’r tân hwn yn pwysleisio perygl tanau trydanol – medrent ddigwydd unrhyw bryd, unrhyw le. Ein cyngor ni yw paratoi gymaint ag y bo modd rhag ofn bod tân, trwy sicrhau bod larymau mwg sy’n gweithio yn eich cartref, a bod gennych lwybrau dianc clir i’ch galluogi chi a’ch teulu i adael eich cartref cyn gynted ag y bo modd.

 

"Mae rhai camau syml y medrwch eu cymryd i helpu i rwystro tân trydanol yn eich cartref. Maent yn cynnwys:


- PEIDIWCH â gorlwytho socedi plygiau
- DYLECH wirio’n rheolaidd rhag ofn bod gwifrau wedi treulio neu rwbio
- DYLECH ddadblygio eitemau pan nad ydynt yn cael eu defnyddio
- DYLECH gadw offer yn lân ac mewn cyflwr da

- DYLECH ddad-weindio ceblau estyniad cyn eu defnyddio.

 

Rhowch gynnig ar y gyfrifiannell 'ampiau’ ar ein gwefan ac ar ein tudalen facebook – ewch i www.nwales-fireservice.org.uk  - mae’n dweud wrthych os ydych chi’n gorlwytho eich socedi ac yn eich helpu i aros yn drydanol ddiogel."

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen