Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn penderfynu ar ei strategaeth ariannol ar gyfer y dyfodol

Postiwyd

Mae aelodau Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn ystyried a thrafod rhagolygon ariannol y gwasanaeth tân ac achub dros y misoedd diwethaf, gan edrych ar ddewis eang o opsiynau i’w alluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau fforddiadwy a dod o hyd i’r diffyg posib o £900,000 yn y gyllideb. 

 

Fe ddaeth yn amlwg nad oedd rhewi cyllideb yr Awdurdod Tân ac Achub bellach yn bosibl oherwydd chwyddiant a chostau cyffredinol yn ogystal â chynnydd mewn costau pensiwn oherwydd newidiadau a gyhoeddwyd i gyllideb y DU.

 

O ganlyniad, mae’r Awdurdod wedi bod yn canolbwyntio ar chwilio am amryw o opsiynau i arbed arian yn y dyfodol, sydd yn cynnwys cau gorsafoedd gwledig a gwneud i ffwrdd ag un injan dân lawn amser o orsaf dân Wrecsam.

 

Ddiwedd y llynedd, ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a’r opsiynau yn fanwl, daeth aelodau’r Awdurdod i’r casgliad mai’r opsiwn yr oeddent hwy am ymchwilio ymhellach iddo ac ymgynghori arno oedd y posibilrwydd o wneud i ffwrdd ag un injan dân lawn amser o Wrecsam erbyn diwedd y ddegawd hon. 

 

Wedi hyn bu i’r Awdurdod gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y strategaeth ariannol tymor canolig pedair blynedd a oedd yn seiliedig ar rewi’r gyllideb ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol hon, cynyddu cyfraniadau’r flwyddyn nesaf, a rhewi’r gyllideb ar gyfer y ddwy flynedd ganlynol ynghyd â lleihau gwasanaethau. Mae hyn yn delio gyda’r cyfnod hyd at ac yn cynnwys 2019/20.

 

Meddai’r Cynghorydd Meirick Davies, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Yng nghyfarfod yr Awdurdod heddiw (20fed Mawrth), fe drafodom ragolygon ariannol y gwasanaeth tân ac achub a buom yn ystyried yr holl adborth a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad ac rydym yn diolch i bawb am eu hymateb.   

 

“Bu i ni hefyd ystyried llu o bryderon gan randdeiliaid yn ofalus cyn dod i benderfyniad.

 

“Nid ar chwarae bach y daethom ni fel aelodau i’r penderfyniad i chwilio am ffyrdd o leihau gwasanaethau yn y dyfodol, ond dyma oedd yr opsiwn a fyddai’n achosi’r difrod lleiaf, a heddiw fe ddaeth yr Awdurdod i’r casglid y byddai’n parhau i ddilyn y strategaeth tymor canolig hon.  

 

“Ni chafodd y penderfyniad i wneud i ffwrdd â’r ail beiriant tân o Wrecsam ei ystyried yn y cyfarfod hwn. Fodd bynnag bu i’r aelodau bleidleisio i dynnu’r penderfyniad yn ôl am y tro, ac felly bydd aelodau’r Awdurdod Tân ac Achub newydd, a fydd yn cael ei ffurfio yn dilyn yr etholiadau lleol ym mis Mai, yn ystyried yr opsiynau sydd ar gael unwaith yn rhagor  cyn penderfynu ar union faint a dull y gostyngiadau i wasanaethau.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen