Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog ffermwyr a thirfeddianwyr i ‘Alw cyn Llosgi!’

Postiwyd

Bydd nifer o ffermwyr nawr yn manteisio ar y cyfle i losgi grug, rhedyn ac eithin dan reolaeth ar eu tir wrth i’r tymor llosgi ddod i ben ar 31ain Mawrth ar uwchdiroedd ac yfory (15 Mawrth) ym mhob man arall.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog ffermwyr a thirfeddianwyr i ddilyn y Cod Llosgi Grug a Glaswellt a rhoi gwybod i’r gwasanaeth tân ac achub pryd a ble y maent yn bwriadu llosgi dan reolaeth drwy ffonio 01931 522 006 ymlaen llaw.

Mae staff wedi bod yn ymweld â marchnadoedd da byw i hybu’r ymgyrch ‘galw cyn llosgi’ i wneud yn siŵr bod tirfeddianwyr yn ystyried rhagofalon tân sylfaenol  yn ogystal â chysylltu cyn cynnau tân. Heddiw fe aeth staff i farchnad da byw Rhuthun i siarad gyda ffermwyr.

Meddai Kevin Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych, a oedd ym marchnad Rhuthun: "Pob blwyddyn yn ystod y tymor llosgi rydym yn cael ein galw i nifer uchel o alwadau diangen a thanau sydd wedi lledaenu.

Drwy roi gwybod i ni pryd a ble y byddwch chi’n llosgi gallwch ein helpu ni i atal

galwadau diangen yn ogystal â sicrhau ein bod yn barod i ymateb pe byddai’r tân yn mynd allan o reolaeth.   

“Pan mae’r tywydd yn sych mae’n hawdd iawn i danau ledaenu. Mae’r tanau hyn yn aml iawn yn digwydd mewn ardaloedd sy’n anodd iawn eu cyrraedd a lle mae cyflenwadau dŵr yn brin. Fe all hyn roi pwysau sylweddol ar ein hadnoddau pe byddai’r tân yn mynd allan o reolaeth. Mae’r tanau hyn yn gallu peryglu cartrefi, da byw a bywydau criwiau a thrigolion gan fod diffoddwyr tân yn cael eu hatal rhag mynd at argyfyngau gwirioneddol.”

Ceir cyngor ar losgi dan reolaeth yn gyfrifol ar ein gwefan http://www.nwales-fireservice.org.uk/keeping-you-safe/in-your-community/call-before-you-burn/?lang=cy-gb

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen