Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweld pobl ifanc wedi eu hysbrydoli gan y cwrs Ffenics

Postiwyd

Aeth Carl Sargeant  AC, Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Cymunedau a Phlant, i weld gorsaf dân Dinbych heddiw i weld sut y mae disgyblion o ysgolion lleol wedi elwa o fynychu cwrs arloesol Ffenics Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yr wythnos hon.

Mae’r cwrs Ffenics wedi ei ddylunio i gynorthwyo gydag ailgyfeirio ynni pobl ifanc tuag at weithgareddau cynhyrchiol a gwerth chweil a fydd yn cynorthwyo gyda’u hintegreiddio gyda chyfoedion a chymunedau.

Arddangoswyd sgiliau a ddysgwyd yn ystod yr wythnos mewn seremoni o lwyddiant a fynychwyd gan Carl Sargeant  AC, Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Cymunedau a Phlant, Prif Swyddogion y Gwasanaeth, aelodau’r Awdurdod Tân, rhieni, gwarcheidwaid a staff o Ysgol Uwchradd Dinbych ac Ysgol Glan Clwyd.

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn atyniad cryf i bobl ifanc, sy’n rhoi i ni y cyfle i geisio dylanwadu’n gadarnhaol ar ymddygiad.

“Mae prosiect Ffenics yn cynnig profiad unigryw i feithrin nodweddion rydym ni fel Gwasanaeth yn gweithio tuag atynt, fel parch, cyfathrebu ac ymddiriedaeth.

“Mae’r wythnos wedi cynnwys cymysgedd o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth lle’r roedd y bobl ifanc yn dysgu am ganlyniadau gweithredoedd, yna gweithgareddau yn yr iard ymarfer lle rydym yn hybu gweithio fel tîm, asesu risg a chadw at gyfarwyddiadau.

“Nod y cwrs yw cynorthwyo’r bobl ifanc i feithrin cymhelliad a theimlo’n gadarnhaol ynglŷn â nhw eu hunain, sydd yn ei dro yn eu gwneud yn well dinasyddion.

"Rydym yn gobeithio y bydd y bobl ifanc hyn yn teimlo eu bod wedi cael rhywbeth cadarnhaol o brosiect Ffenics ac y bydd o fudd iddynt yn y dyfodol.”

­Meddai Carl Sargeant  AC, Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Cymunedau a Phlant: “Rwy’n falch iawn o weld prosiect Ffenics yn gwneud gwaith mor ardderchog gyda phobl ifanc. Mae rhaglenni fel hyn yn rhoi hwb i hyder ac yn meithrin agweddau positif ac ymddygiad mwy cymdeithasol-gyfrifol yn y bobl ifanc sy’n cymryd rhan. Maent yn cynyddu ymwybyddiaeth o beryglon tân, yn helpu i gadw pawb yn ddiogel. Rwy’n llongyfarch yr holl bobl ifanc ar gwblhau’r cwrs a gobeithio y bydd yn eu helpu i feithrin eu sgiliau a’u hunan-hyder.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen