Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

‘Datblygu’r Gwasanaeth Tân ac Achub at y dyfodol’ – cyhoeddi manylion yr ymgynghoriad cyhoeddus

Postiwyd

Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pobl i gymryd rhan yn y dasg o’i helpu i gynllunio’r modd y dylai gwasanaethau tân ac achub yng Ngogledd Cymru gael eu datblygu dros y blynyddoedd nesaf.

Mae’n gwahodd sylwadau cyffredinol ar ei ddatblygiad ar gyfer y dyfodol cyn iddo ddechrau ar y gwaith o ddatblygu ei gynlluniau ar gyfer 2018/19 a thu hwnt.

Amcan yr Awdurdod yw ceisio parhau i wella gwasanaethau yn y tymor byr yn ogystal ag ystyried lles cenedlaethau’r dyfodol yn yr ardal - gan ystyried y costau cysylltiedig a sicrhau bod gwasanaethau yn fforddiadwy.  

Yn dilyn yr etholiadau cyngor sir diweddar bydd yr awdurdod newydd yn datblygu ei gynlluniau ar gyfer dyfodol y gwasanaeth. Daw’r ymgynghoriad hwn wedi i’r Awdurdod ymrwymo i ymgynghori’n gyhoeddus ar y camau y bydd yn eu cymryd yn 2018/19 er mwyn cyflawni ei amcanion lles yn yr hir dymor, fodd bynnag bydd y gyllideb ar gyfer 2018/19 yn seiliedig ar y costau hysbys a ragwelir ar gyfer y flwyddyn honno.

Mae gan yr Awdurdod enw da o ran y modd y mae wedi llwyddo i reoli ei arian a pharhau i gynnig gwasanaethau atal, amddiffyn ac ymateb o’r radd flaenaf er gwaetha’r toriadau. Mae’n poeni am yr ardal a’r boblogaeth gyfan yng Ngogledd Cymru - Beth ydy'ch barn chi ar y mater hwn?

Yn dilyn yr ymgynghoriad diwethaf, bu i’r Awdurdod fabwysiadu dau amcan hir dymor yn gynnar yn 2017: cefnogi pobl i atal tanau damweiniol mewn cartrefi a chadw’n ddiogel os bydd tân yn digwydd, a gwneud popeth fewn ei allu i wneud yn siŵr bod Gogledd Cymru yn medru parhau i ddibynnu ar gael gwasanaethau tân ac achub o’r radd flaenaf.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar y modd y gall yr Awdurdod newydd, a ffurfiwyd ar ôl yr etholiadau lleol, ddatblygu ei gynlluniau ei hun ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt.

Po fwyaf o bobl fydd yn cymryd rhan, gwell fydd ein rhagolygon ni o sicrhau'r cydbwysedd iawn o ran gwasanaethau a gallwn fod yn hyderus bod y cynlluniau gweithredu manwl a ddatblygwn yn cyflawni’r union beth y mae ei angen ar bobl y Gogledd.

Cewch wybod mwy am sut i gymryd rhan drwy fynd i’n gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk , ein dilyn ni ar @northwalesfire a www.facebook.com/northwalesfireservice

Dylid anfon eich sylwadau yn y post neu ar e-bost cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben ar 31ain Gorffennaf 2017.

Gellir dod o hyn i’r ddogfen ‘Datblygu’r Gwasanaeth Tân ac Achub at y dyfodol’ yma.

Bydd yr Awdurdod yn ystyried ei gynlluniau i’r dyfodol yng ngoleuni’r ymatebion a dderbynnir cyn cyhoeddi ei Gynllun terfynol ar gyfer 2018-19 ar wefan yr Awdurdod.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen