Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cyngor diogelwch tân i bobl sydd yn byw mewn tyrau fflatiau

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig cyngor a sicrwydd i bobl sydd yn poeni am ddiogelwch tyrau fflatiau yn dilyn y tân yn Grenfell Tower yn Llundain heddiw. 

Meddai’r Uwch Reolwr Diogelwch Tân Stuart Millington: "Mae ein meddyliau gyda phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad trychinebus hwn.

"Ni fyddai’n briodol i mi ddyfalu ar yr adeg hon beth yn union oedd achos y tân hyd nes i’r awdurdodau priodol gwblhau eu hymchwiliad yn llawn.

"Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod tanau o’r math hwn yn brin iawn. Mae tyrau fel hyn wedi cael eu dylunio i wrthsefyll tân, atal lledaeniad mwg a darparu llwybrau dianc diogel. Yn aml iawn dydy tanau yn yr adeiladau hyn bydd yn lledaenu ymhellach nag un neu ddwy ystafell. 

“Mae ein swyddogion diogelwch tân yn gweithio’n agos gyda chyrff rheolau adeiladu, perchnogion adeiladau a phartneriaid llywodraeth leol i wneud yn siŵr bod adeiladau’n cwrdd â’r gofynion angenrheidiol o ran rheolau adeiladu ac rydym yn cynorthwyo pobl gyfrifol i gydymffurfio â’u dyletswyddau cyfreithiol

“Rydym hefyd yn gwneud yn siŵr  bod gennym gynlluniau a’r wybodaeth ddiweddaraf am y math yma o adeiladau megis tyrau fflatiau rhag ofn i ni orfod ymateb  - ac mae ein swyddogion wedi cwrdd â phartneriaid heddiw mewn perthynas â safleoedd allweddol sydd gan dyrau fflatiau yn ein rhanbarth ni.

"Ond, wrth gwrs, mae’n hanfodol bod pobl yn cofio beth yn union y dylent ei wneud mewn achos o dân er mwyn eu cadw hwy eu hunain a’u perthnasau yn ddiogel.  Mae hyn yn wir ar gyfer unrhyw eiddo neu adeilad ond mae’n bwysig iawn yn achos aelodau’r gymuned sy’n fwy agored i niwed, megis pobl dros 60 oed, plant dan 5 oed  a phobl sydd gan broblemau symudedd.

"Nid oes gennym lawer o adeiladau uchel yn ein rhanbarth ni ond hoffwn roi sicrwydd i bobl ein bod ni yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn eu harchwilio’n rheolaidd a bod ein criwiau’n cynnal hyfforddiant rheolaidd yn yr adeiladau hyn.  

"Bydd unrhyw wersi a ddysgir yn dilyn yr ymchwiliad i’r tân yn Llundain yn cael eu hymgorffori i’n cynlluniau ar gyfer delio gyda digwyddiadau mewn tyrau fflatiau.”

Dilynwch ein cyngor cyffredinol ar gadw’n ddiogel rhag tân yn y cartref sydd ar gael yma.

Cyngor penodol ar gyfer pobl sydd yn byw mewn tyrau fflatiau:

  • Os bydd tân mewn fflat arall yn yr adeilad, mae fel arfer yn well i chi aros yn eich fflat, oni bai bod y gwres neu’r mwg yn effeithio arnoch. Os nad ydych yn siŵr – ewch allan o’r adeilad. 
  • Os oes gwres neu fwg yn y coridor defnyddiwch y grisiau i fynd allan. PEIDIWCH Â DEFNYDDIO’R LIFFT.
  • Os bydd tân, peidiwch â chymryd yn ganiataol bod rhywun arall wedi ffonio 999. Gwnewch yn siŵr bod cymdogion yn gwybod am y tân.  Curwch ar eu drysau wrth i chi fynd allan.
  • Peidiwch byth ag ymyrryd gyda’r mewnbibellau tân ar ben grisiau - mae diffoddwyr tân yn eu defnyddio i ddiffodd tanau. Fe all pobl farw os nad ydynt yn gweithio’n iawn.  Os gwelwch fod rhywun wedi malu neu ddifrodi’r mewnbibellau hyn, dylech ddweud wrth reolwr yr adeilad ar unwaith.
  • Peidiwch byth â defnyddio neu storio silindrau nwy.

 

Os hoffwch archwiliad diogelwch yn y cartref am ddim, a larymau mwg am ddim os oes angen, ffoniwch Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 0800 169 1234 neu anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen