Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Wythnos Diogelwch Simneiau

Postiwyd

 

 

A’r tymheredd yn parhau i ostwng i nodi diwedd yr haf, bydd llawer ohonom yn mynd ati eto i gynnau tân yn ein cartrefi i gadw’n gynnes, ac mae hynny’n golygu bod angen ystyried diogelwch simneiau.

 

Mae hi’n Wythnos Diogelwch Simneiau yr wythnos yma (Medi 4ydd – 10fed), ac mae’r swyddogion tân yn annog y trigolion i gadw cynghorion sylfaenol am ddiogelwch tân mewn cof cyn cynnau tân am y tro cyntaf yr hydref yma.

 

Mae modd osgoi’r rhan fwyaf o danau simnai – cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw at 151 o danau simnai y llynedd.

 

Fel yr esbonia Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân yng Ngwasanaeth Tân a Achub Gogledd Cymru: “Fe welsom ni ostyngiad yn nifer y tanau simnai yr aethom ni atyn nhw yn ystod ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae’n dda gweld bod y negeseuon diogelwch tân a hyrwyddwyd gennym wedi bod yn effeithiol.

 

“Eto eleni, hoffem atgoffa’r cyhoedd ei bod yn bwysig eich cadw eich hun a’ch teulu’n ddiogel drwy leihau’r perygl o dân. Dylid glanhau pob simnai’n gyson, a dyma amser perffaith i wneud hynny cyn i fisoedd oer y gaeaf gyrraedd ac i chithau ddechrau defnyddio’r tân a’r simnai eto.

 

Mae’n costio llai na £100 i gael glanhau eich simnai felly rwy’n annog pawb i drefnu hyn cyn cynnau tân am y tro cyntaf yr hydref yma.”

 

Er mwyn bod mor ddiogel â phosibl rhag tân simnai yn y cartref, dyma air i gall gan Stuart:

 

  • Dylid glanhau ac archwilio ffliwiau a simneiau i wneud yn siŵr nad oes dim byd yn eu blocio a'u bod mewn cyflwr gweithredol da cyn eu cynnau. Gall simnai ddiffygiol neu un sydd wedi ei blocio achosi tân neu wenwyn carbon monocsid, felly mae'n bwysig cyflogi glanhawr simnai proffesiynol sydd wedi cofrestru gyda Chymdeithas Genedlaethol y Glanhawyr Simnai.

 

  • Mae'r gwaith cynnal a chadw yn dibynnu ar y math o danwydd yr ydych yn ei losgi - os ydych yn llosgi olew neu nwy mae gofyn i chi lanhau'ch simnai unwaith y flwyddyn, glo rhwym ddwywaith y flwyddyn, coed hyd at bedair gwaith y flwyddyn, a glo di-fwg o leiaf unwaith y flwyddyn.

 

  • Peidiwch â llosgi coed gwlyb.

 

  • Wrth feddwl sut i wresogi'ch cartref, mae'n bwysig prynu'r cyfarpar o’r maint cywir ar gyfer yr ystafell - os ydy'r cyfarpar yn rhy fawr ni fydd fyth yn ddigon poeth i losgi'r holl danwydd a bydd unrhyw danwydd na fydd yn cael ei losgi'n mynd i fyny'r simnai ac yn cywasgu'r ffliw gan droi'n greosot fflamadwy iawn.

 

Ychwanegodd Stuart: “I leihau'r perygl o dân yn y cartref, gwnewch yn siŵr eich bod wedi diffodd y colsion poeth yn iawn cyn mynd i'r gwely, a defnyddiwch gard i amddiffyn rhag gwreichion o golsion poeth.

 

“Os cewch dân yn y cartref, gall larwm mwg achub eich bywyd a rhoi cyfle i chi fynd allan o'r tŷ - profwch eich larwm yn rheolaidd.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen