Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Seremoni Gwobrau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Postiwyd

Cyflwynodd Arglwydd Raglaw Clwyd, Mr Harry George Fetherstonhaugh OBE  Fedalau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw i staff gweithredol y Gwasanaeth yn ystod Seremoni Gyflwyno a gynhaliwyd yng Ngorsaf Dân Gymunedol y Rhyl ddydd Llun 12fed Medi.

Cyflwynir y Fedal am Wasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw i ddiffoddwyr tân gan Gynrychiolydd Ei Mawrhydi i gydnabod 20 mlynedd o wasanaeth.

Cyflwynwyd gwobrau hefyd i gydnabod 40 mlynedd o Wasanaeth yn ogystal ag un ar ddeg o Wobrau Cymunedol hefyd i aelodau staff a’r gymuned sydd wedi gweithio’n galed i wella diogelwch cymunedol yng Ngogledd Cymru.

Meddai Simon Smith, Prif Swyddog Tân: "Mae derbyn medal yn achlysur pwysig i bob diffoddwr tân ac mae’r seremoni hon yn dangos ymrwymiad ac ymroddiad pob un o’r derbynwyr i’r Gwasanaeth Tân ac Achub yng Ngogledd Cymru. Gall pob derbyniwr gymryd balchder a boddhad wrth dderbyn eu Medalau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da neu Wobr Gwasanaeth Ffyddlon."

Meddai’r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Ar ran Aelodau Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, hoffwn longyfarch pawb sydd wedi derbyn medal. Hefyd, llongyfarchiadau i’r sawl a dderbyniodd wobr gymunedol - diolch yn fawr i chi am eich ymroddiad ac i’n partneriaid allanol sy’n parhau i weithio gyda ni i amddiffyn ein cymunedau.”

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen