Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn helpu i hybu diogelwch ymysg busnesau

Postiwyd

Mae staff  Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn ymweld a busnesu lleol ar draws y rhanbarth yr wythnos hon i roi cyngor a gwybodaeth fel rhan o Wythnos Diogelwch Busnesau 2017.

 

Mae’r wythnos yn cael ei chynnal rhwng 11eg-17eg Medi a’r nod yw sicrhau bod busnesau a’u staff yn meddu ar yr wybodaeth angenrheidiol i atal, amddiffyn ac ymateb i danau yn y gweithle. 

 

Meddai Kevin Jones, Rheolwr  Diogelwch Cymunedol: “Mae’r gweithgareddau ar gyfer yr wythnos hon wedi eu trefnu ar adeg pan fydd nifer o fusnesau yn recriwtio mwy o staff cyn cyfnod y Nadolig.

 

“Mae’n bosib na fydd y recriwtiaid newydd hyn yr un mor ymwybodol o ddiogelwch tân â staff parhaol, ac mae’n bosib na fyddant yn gwybod sut i amddiffyn cwsmeriaid, cydweithwyr a hwy eu hunain. Mae hefyd yn gyfle da i atgoffa gweithwyr o bwysigrwydd asesiadau risgiau tân a gwneud yn siŵr bod staff presennol yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelwch tân.”

 

Mae gwasanaethau tân ac achub ar draws y rhanbarth yn gofyn ar i fusnesau gymryd camau i ddiogelu eu hunain rhag rannau bwriadol, a rhoi gwybod i’r staff sut i ymateb yn addas i danau a gweithio gyda’u gwasanaeth tân ac achub lleol i atal camrybuddion a hysbysiadau gorfodi. 

 

Fe ychwanegodd Kevin: “Drwy gydymffurfio gyda’r gyfraith rydych yn amddiffyn eich busnes, safle a gweithwyr. Mae hefyd yn golygu y byddwch yn barod rhag ofn i dân ddigwydd yn eich busnes. Os ydych chi’n berchennog busnes neu’n gyfrifol am safle yn gyfreithiol, o dan y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân,  mae’n rhaid i chi atal y peryglon a gwneud yn siŵr bod modd i bobl fynd allan mewn achos o dân. Oni bai eich bod yn cydymffurfio gallwch wynebu cost ariannol, cyfreithiol a difrodi enw da eich busnes.

 

Am ragor o wybodaeth  cliciwch yma

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen