Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Llwyddo i gael pawb allan yn ddiogel yn dilyn tân mewn cartref preswyl ger Llanrwst

Postiwyd

 

Mae criwiau wrthi’n delio gyda thân mewn cartref preswyl ym Mhandy Tudur, ger Llanrwst.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw at y tân am 00.00 heddiw (18fed Ionawr).

Anfonwyd dau griw o Lanrwst, un criw o Abergele, un criw o Landudno, dau griw o Fae Colwyn, un criw o’r Rhyl a’r Uned Rheoli Digwyddiadau a’r Peiriant Cyrraedd yn Uchel o’r Rhyl at y digwyddiad.  

Llwyddwyd i gael yr holl breswylwyr allan o’r adeilad yn ddiogel. Cafodd chwech o breswylwyr eu cludo i’r ysbyty am archwiliad rhagofalus.

Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân bibellau tro ac offer anadlu i ddelio gyda’r tân ac maent yn parhau i dampio’r safle ar hyn o bryd.

Bydd ymchwiliad i achos y tân yn cael ei gynnal heddiw.

Meddai Jami Jennings o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rydym wedi bod yn delio gyda thân mawr a chymhleth yn ystod oriau mân y bore yma. Yn ffodus iawn llwyddwyd i gael pawb allan o’r adeilad yn ddiogel a bydd ymchwiliad i achos y tân yn cael ei lansio’n hwyrach heddiw.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen