Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diogelwch Calan Gaeaf

Postiwyd

Wrth i Galan Gaeaf ddynesu, mae diffoddwyr tân yn atgoffa rhieni i amddiffyn eu plant rhag gwisgoedd ffansi fflamychol.

Meddai Justin Evans, Pennaeth Diogelwch Tân Cymunedol: “Rydym eisiau i bobl fwynhau dathlu Calan Gaeaf, ond i wneud yn siŵr eu bod yn gwybod am y peryglon posibl os bydd eu gwisg yn mynd ar dân.

“Mae poblogrwydd gwisgoedd ffansi i blant adeg Calan Gaeaf wedi cynyddu’n fawr yn y blynyddoedd diweddar ac rydym yn rhoi’r cyngor hwn i rybuddio pobl er mwyn iddynt fedru mwynhau eu hunain ac aros yn ddiogel ar yr un pryd.”

Dyma gynghorion diogelwch Justin -


Edrychwch ar y labeli ar unrhyw wisgoedd ffansi rydych yn eu prynu i weld pa wrthsafiad tân sydd ganddynt.

Defnyddir gynau plastig a sachau bin yn aml fel gwisgoedd – cadwch nhw i ffwrdd o wreichion, canhwyllau neu fflamau noeth eraill.

Defnyddiwch oleuadau batri mewn lanternau neu bwmpenni. Mae’r rhain yn llawer mwy diogel na chanhwyllau ac yn rhad i’w prynu.

Byddwch yn arbennig o ofalus gyda chanhwyllau – maent yn beryglus iawn. Os bydd cannwyll yn syrthio drosodd gallai danio deunydd megis gwisgoedd, llenni a dodrefn a chychwyn tân difrifol.

Os bydd gwisg rydych yn ei gwisgo yn mynd ar dân, y cyngor yw ‘stopiwch, disgynnwch a rholiwch’, gan ei gwneud yn anoddach i’r fflamau ymledu.

Os ydych chi gyda rhywun y mae eu dillad ar dân, d’wedwch wrthyn nhw am stopio, disgyn a rholio, yna diffoddwch y fflamau gyda rhywbeth trwm fel côt neu flanced.

Mewn argyfwng oerwch unrhyw losg gyda llawer o ddŵr a chael cymorth meddygol ar frys.

Bydd staff o’r gwasanaeth yn rhan o ddigwyddiad Calan Gaeaf Brawychus ym Mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ddydd Llun y 29ain. Dewch i’n gweld ni yma i gymryd rhan yn ein cwis diogelwch a m gyfle i ennill hamper o anrhegion brawychus.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen