Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Amlygu peryglon sigaréts yn dilyn tân yn Nhowyn

Postiwyd

 

Cafodd peryglon sigaréts sy’n cael eu diffodd yn ddiofal eu hamlygu yn dilyn y tân a ddigwyddodd ddydd Mercher (31ain Hydref) yn Gors Road, oddi ar Kinmel Way lle, yn drist iawn, bu farw dynes a'i dau gi.

Anfonwyd pedair injan dân yn dilyn adroddiadau o fwg yn dod o’r eiddo am 08.48 o’r gloch. Wrth gyrraedd, gwelodd criwiau bod tân difrifol ar lawr gwaelod y byngalo dormer. Defnyddiwyd pedair set o offer anadlu, dwy bibell chwistrellu ac un prif chwistrell wrth ddelio gyda’r digwyddiad. Cafwyd hyd i ddynes, y credir iddi fod yn ei 60au canol, yn yr eiddo gan ddiffoddwyr tân. Cafodd ei throsglwyddo i ambiwlans i fynd i’r ysbyty, ond bu farw yn fuan wedyn. Bu dau gi farw yn y tân hefyd.

Yn dilyn ymchwiliad ar y cyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru, credir bod y tân wedi ei achosi gan sigarét a oedd wedi ei diffodd yn ddiofal.

Meddai Bob Mason o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Rwyf yn cydymdeimlo’n ddwys gyda’r perthnasau a’r ffrindiau sydd ynghlwm â’r digwyddiad trasig hwn.

"Daethpwyd i’r casgliad yn ystod yr ymchwiliad tân bod y tân wedi ei achosi gan sigarét a oedd heb ei diffodd yn ddiofal – mae’r digwyddiad yn amlygu peryglon peidio â diffodd sigaréts yn iawn a diffodd sigaréts mewn eitemau amhriodol yn hytrach na defnyddio blychau llwch pwrpasol.

"Mae’n hanfodol gwneud yn siŵr bod deunyddiau ysmygu yn cael eu diffodd yn ddiogel, yn enwedig cyn mynd i’r gwely.  

"Os oes gennych chi ffrindiau neu berthnasau hŷn sydd yn ysmygu, gwnewch yn siŵr eu bod yn ymwybodol o'r peryglon - drwy ddilyn y cynghorion isod gallant leihau'r perygl o ddioddef tân yn y cartref:

-Byddwch yn hynod ofalus os ydych chi wedi blino, yn cymryd meddyginiaeth neu gyffuriau o unrhyw fath neu os ydych wedi bod yn yfed.  Mae'n hawdd iawn syrthio i gysgu tra bod eich sigarét yn parhau i losgi.

-Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely - os oes rhaid i chi orwedd, peidiwch â thanio. Gallwch bendwmpian a rhoi eich gwely ar dân.   

- Peidiwch byth â gadael sigaréts, sigarau neu gatiau yn llosgi heb neb i gadw llygaid arnynt - gallant syrthio drosodd tra'u bod yn dal i losgi

- Prynwch danwyr a matsis sydd yn ddiogel rhag plant - pob blwyddyn mae plant yn marw ar ôl cynnau tanau gyda matsis a thanwyr.  Cadwch hwy ymhell o gyrraedd plant.

- Defnyddiwch flwch llwch trwm a phwrpasol na ellir ei droi drosodd yn hawdd, ac sydd wedi ei wneud o ddeunydd gwrthdan.   Gwnewch yn siŵr eich bod wedi diffodd y sigarét yn gywir ar ôl gorffen - diffoddwch hi, yn llwyr.

- Rhowch y lludw mewn blwch llwch, nid mewn bin sbwriel - gwagiwch eich blwch llwch yn rheolaidd fel nad yw'n llawn lludw a bonion sigaréts. 

- Gosodwch larymau mwg a chofiwch eu cynnal a'u cadw'n rheolaidd - os bydd tân, dim ond ychydig funudau fydd gennych chi i ddianc. Fe all larwm mwg gweithredol roi cyfle i chi fynd allan, aros allan a ffonio 999. Gallwch brynu larwm mwg am yr un pris a phecyn o sigaréts. Mae larymau mwg gyda batri hir oes neu larymau trydan yn well fyth.  

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen