Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Hybu Wythnos Atal Boddi a Diogelwch Dŵr

Postiwyd

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi’r ymgyrch ‘Deall Peryglon Dŵr’, sef ymgyrch atal boddi a diogelwch dŵr Cymdeithas Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC) rhwng 23ain -29ain Ebrill.

Mae boddi ymhlith un o brif achosion marwolaethau damweiniol yn y DU. Pob blwyddyn mae dros 300 o bobl yn marw ar ôl baglu, syrthio neu beidio â llawn werthfawrogi’r peryglon sydd yn gysylltiedig â bod yn agos at ddŵr. Mae llawer mwy o bobl hefyd yn dioddef anafiadau newid bywyd o ganlyniad i ddigwyddiadau yn ymwneud â dŵr.

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn codi ymwybyddiaeth o’r risgiau er mwyn i bobl gael mwynhau’r dŵr yn ddiogel a pheidio dod yn un o’r ystadegau.

 

Meddai Jane Honey, Dirprwy Bennaeth Diogelwch Cymunedol: "Bydd y rhan fwyaf o bobl  wedi synnu o glywed mai’r bobl sydd yn boddi ydi’r bobl hynny  sydd yn digwydd bod yn agos at ddŵr megis rhedwyr neu gerddwyr. Maent yn anymwybodol o’r risgiau a heb baratoi ar gyfer y posibilrwydd o syrthio i’r dŵr. Trwy amlygu’r mater hwn a gwneud yn siŵr bod negeseuon diogelwch yn eu cyrraedd rydym yn gobeithio lleihau nifer y marwolaethau diangen hyn.”

“Yn ystod wythnos diogelwch dŵr byddwn yn addysgu’n cadetiaid tân am y peryglon o fod yn ac yn agos at y dŵr. Bydd y cadetiaid hyn wedyn yn rhannu’r negeseuon yma gyda’i ffrindiau a’u teulu i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr yn ein cymunedau yng Ngogledd Cymru.”

Cyngor Diogelwch

  • Os ydych chi’n mynd am dro neu’n rhedeg ger dŵr cadwch at lwybrau addas a pheidiwch â mynd yn agos at ymyl y dŵr
  • Gwnewch yn siŵr bod yr amodau’n ddiogel, ceisiwch osgoi rhedeg neu gerdded yn ymyl dŵr yn y tywyllwch, os ydi’r tir yn llithrig neu os ydi’r tywydd yn wael
  • Os ydych chi wedi bod yn yfed peidiwch â mynd i mewn i’r dŵr, ceisiwch osgoi cerdded ar eich pen eich hun a cheisiwch osgoi llwybrau sy’n agos at ddŵr
  • Peidiwch byth â mynd i mewn i’r dŵr i geisio helpu person neu anifail – ffoniwch 999 bob amser a defnyddiwch offer achub dŵr os oes offer gerllaw
  • Os ydych chi’n treulio amser ger dŵr – un ai adref neu dramor gwnewch yn siŵr bod eich teulu’n ymwybodol o’r wybodaeth diogelwch. Mae’r gwasanaeth tân wedi llwyddo i leihau nifer y marwolaethau tân trwy ei waith ataliol ac felly mae’n rhaid i ni nawr roi’r un egwyddor ar waith i fynd i’r afael ag achosion o foddi. Dydi ymateb ddim yn ddigon – mae’n rhaid i ni atal boddi.  
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen