Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân yn Sandycroft – ymchwiliad i achos y tân ar y gweill

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dal i fod yn bresennol ar safle’r tân yn y safle ailgylchu yn Factory Road, Sandycroft. .

Derbyniodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’r alwad am 3.14pm ddoe (Dydd Mawrth 1af Mawrth).

Meddai Kevin Roberts, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: “Fe ddeliom yn effeithiol gyda’r digwyddiad ar sail aml-asiantaethol.

"Gweithiodd y criwiau yn ddiflino i ddelio gyda’r digwyddiad drwy gydol y nos ac yn ystod y dydd heddiw.

"Rydym wrthi’n delio gyda’r mannau poeth sydd yn weddill ar hyn o bryd a byddwn yn adolygu’r sefyllfa eto heno mewn perthynas â chadw gorchwyl gwylio ar y safle.

“Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen