Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Marwolaeth drist dau gi ar ôl tân peiriant golchi llestri ger Abergele

Postiwyd

Mae tân peiriant golchi llestri yn Llanfair Talhaearn, ger Abergele wedi ysgogi apêl gan swyddogion gwasanaeth tân ac achub i drigolion osgoi rhedeg peiriannau fel rhai golchi llestri, dillad a pheiriannau sychu pan nad ydynt yn yr eiddo.

 

Galwyd criwiau o Fae Colwyn, Abergele a’r Rhyl i’r eiddo yn Llanfair Talhaearn, ger Abergele am 14.52 o’r gloch ddoe, dydd Iau 14eg Mehefin.

 

Defnyddiodd diffoddwyr tân rîl, un brif chwsitrell, deg set o offer anadlu, camera delweddau thermol ac offer bach i ddelio â’r tân.

 

Nid oedd y deiliaid adref adeg y digwyddiad, ond yn anffodus bu dau gi farw yn y tân.

 

Achosodd y tân ddifrod tân 70% a difrod gwres a mwg 100% i’r eiddo.

 

Ystyrir bod y tân wedi ei achosi gan ddiffyg yn y peiriant golchi llestri.

 

Meddai Jane Honey, Dirprwy Bennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Mae’r digwyddiad trist hwn yn amlygu pwysigrwydd osgoi rhedeg peiriannau megis rhai golchi llestru, dillad a pheirianau sychu pan nad ydych adref neu pan fyddwch yn y gwely.

 

“Os yw peiriannau yn cael eu rhedeg pan na fyddwch yno, neu‘n cysgu yn y gwely, gall tân ddatblygu heb gael ei ganfod.

 

“Roedd larymau mwg yn gweithio yn yr eiddo hwn, ond oherwydd bod y lleoliad yn bellennig, a’r trigolion allan o’r eiddo, datblygodd y tân yn sylweddol cyn y galwyd y gwasanaethau argyfwng. Roedd hyn yn golygu bod yr adeilad yn eithaf llawn mwg erbyn hynny ac roedd difrod difrifol wedi ei achosi i’r eiddo.

“Rydym yn cynghori rhedeg nwyddau gwynion fel hyn dim ond pan fyddwch o gwmpas i gadw llygad arnyn nhw.

 

“Hefyd, yn gyffredinol gyda thanau trydanol, rydym yn dod ar draws eitemau sydd wedi eu galw yn ôl gan y gwneuthurwr, ond sy’n dal i gael eu defnyddio gan drigolion.

 

“Apeliwn i holl drigolion i sicrhau bod eu heitemau trydanol mewn cyflwr da, ac i edrych ar y gofrestr leol i wirio’r eitemau yn eu cartref.

 

“Bydd mwyafrif y nwyddau yn reich cartref yn ddiogel, ond dylech wirio’n rheolaidd i sicrhau nad oes unrhyw un wedi ei alw’n ôl.

 

“I wirio eitemau sydd wedi cael eu galw’n ôl, ewch i www.electricalsafetyfirst.org.uk

 

“Os ydych yn bryderus am eitem nad yw’n ymddangos ar y rhestr galw’n ôl, rhowch gorau i’w ddefnyddio ar unwaith a mynegwch eich pryder i’r gwerthwr, y gwneuthurwr neu swyddfa leol Safonau Masnach.

 

“Sicrhewch bod eitemau trydanol newydd wedi eu cofrestru, er mwyn i gynhyrchwyr fedru cysylltu gyda chi os oes unrhyw broblem. Ewch i www.registermyappliance.org.uk i gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru eich nwyddau trydanol.

 

"Hefyd, mae angen defnyddio offer trydanol yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, a dylai trigolion gymryd camau syml i leihau risg tân trydanol – peidiwch â gorlwytho socedi plygiau, edrychwch yn rheolaidd i wneud yn siŵr nad yw gwifrau wedi gwisgo ac ati, tynnwch y plwg pan nad ydych yn defnyddio rhwybeth, cadwch offer yn lân ac mewn cyflwr da, a dad-weindiwch geblau estyniad yn llawn cyn eu defnyddio.

 

“Ein cyngor yw bod mor barod ag y medrwch fod, trwy sicrhau bod larymau mwg sy’n gweithio yn cael eu gosod yn eich cartref, a bod gennych lwybrau dianc clir i’ch galluogi chi a’ch teulu i adael eich cartref cyn gynted ag y bo modd.”

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen