Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Criwiau tân yn delio gyda thân eithin

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân yn erfyn ar bobl i stopio a meddwl am ganlyniadau cynnau tanau glaswellt yn fwriadol yn dilyn nifer o ddigwyddiadau sydd wedi mynd ag adnoddau gwerthfawr.

Mae peiriannau o Fae Colwyn, Llandudno, Dolgellau, Corwen, Cerrigydrudion, Llanrwst, yr Uned Meistroli Digwyddiadau o’r Rhyl a’r Pwmp Cyfaint Uchel o Fetws y Coed wrthi’n delio gyda’r digwyddiad. Derbyniwyd yr alwad am 4.16pm y prynhawn yma (Dydd Gwener 29ain Mawrth).  Mae’r ffrynt tân yn filltir o hyd ac mae trigolion o dai cyfagos wrthi’n cael eu symud rhag ofn.

Yn gynharach heddiw cafodd criwiau eu galw at dân eithin mawr ym Mronaber ger yr A470 am 1.12pm (Dydd Gwener 29ain Mawrth).  Roedd diffoddwyr tân o Abermaw, Dolgellau, Harlech, Porthmadog a Dinbych yn bresennol ac roedd y digwyddiad dan reolaeth erbyn  6.10pm. Credir bod y tân wedi bod yn llosgi dan reolaeth  i ddechrau arni ond ei fod wedi lledaenu a mynd allan o reolaeth.

Yn ystod y prynhawn yma cafwyd nifer o ddigwyddiadau yn ardal Llangwyfan, Llandyrnog a Llansannan yn ogystal, a oedd yn ymwneud â glaswellt, eithin a rhedyn - roedd y mwyafrif o’r rhain yn danau a oedd wedi eu cynnau dan reolaeth. Derbyniodd yr ystafell reoli nifer o alwadau gan aelodau’r cyhoedd a oedd yn poeni am y tanau hyn. 

Meddai Kevin Roberts, Prif Swyddog Cynorthwyol: “Er na chafwyd cymaint â hynny o ddigwyddiadau, mae pob un wedi mynd â’n hadnoddau prin a’n hatal ni rhag mynd at ddigwyddiadau eraill lle mae bywydau yn y fantol.

“Mae’r tywydd sych wedi cynyddu’r risg o danau gwledig a hoffem ddiolch i’r bobl hynny sydd wedi cysylltu gyda ni i ddweud eu bod yn bwriadu llosgi dan reolaeth ac ymddwyn yn ddiogel a chyfrifol.

“Mae’r tymor llosgi yn dod i ben Ddydd Sul 31ain Mawrth ac yn y cyfamser rydym yn dal i erfyn ar bobl i roi gwybod i ni os ydynt yn bwriadu llosgi dan reolaeth – yn ystod y cyfnod cyfreithiol.  Ar y diwrnod rhaid i dirfeddianwyr sicrhau bod ganddynt gynllun llosgi ar waith a rhoi gwybod i’r gwasanaeth tân ac achub ble yn union y maent yn bwriadu llosgi drwy ffonio 01931 522 006, rhag ofn i’r gwasanaeth tân wastraffu amser ac adnoddau yn mynd at danau dan reolaeth.

“Yn ystod cyfnodau sych, fe all tanau yn ymwneud â glaswellt, eithin a rhedyn ddatblygu’n gyflym, yn enwedig wrth i’r gwynt gynyddu, ac o ganlyniad fe allant fynd allan o reolaeth a lledaenu i dai neu fforestydd cyfagos, gan olygu bod yn rhaid galw’r gwasanaeth tân ac achub allan i’w diffodd.  

“Rydym ni hefyd yn erfyn ar ymwelwyr i gymryd pwyll arbennig pan fyddant yng nghefn gwlad i leihau’r perygl o danau damweiniol.  Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael gwared ar ddeunyddiau ysmygu yn gyfrifol a’u diffodd yn llwyr. Os ydych chi’n gwersylla, gwnewch yn siŵr bod tanau gwersyll a barbeciws yn cael eu diffodd yn llwyr yn ogystal.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen