Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Deall Peryglon Dŵr - gwybodaeth hanfodol os nad ydych chi’n bwriadu mynd i mewn i’r dŵr!

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi ymgyrch Deall Peryglon Dŵr Cymdeithas Genedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC).

Cynhelir yr wythnos rhwng 29ain Ebrill a 5 Mai 2019 ac mae’n ymgyrch genedlaethol i amlygu’r perygl o foddi’n ddamweiniol.

Yn 2017 doedd hanner y bobl a foddodd yn ddamweiniol ddim yn bwriadu mynd i mewn i’r dŵr o gwbl.

Mae gweithgareddau fel rhedeg, cerdded, pysgota a seiclo ger dŵr yn gallu’ch rhoi chi mewn perygl o foddi.

Yn 2017:

  • Fe wnaeth 255 o bobl foddi’n ddamweiniol yn y DU
  • Roedd tua 50% o’r bobl hyn yn digwydd bod ger dŵr
  • Roedd 85% o’r bobl a fu farw yn ddynion
  • Hefyd, yn 2017 bu foddi 75 o ddinasyddion y Deyrnas Unedig, twristiaid yn bennaf, tra roeddent dramor.

Meddai Dawn Whittaker, Prif Swyddog Tân, Arweinydd Atal Boddi a Diogelwch Dŵr yr NFCC: "Bydd y rhan fwyaf o bobl wedi synnu o glywed bod y bobl a wnaeth foddi dim ond yn digwydd bod ger y dŵr ar yr adeg yn cymryd rhan mewn gweithgareddau arferol fel rhedeg neu gerdded.

“Roeddent yn anymwybodol o’r risgiau a heb baratoi ar gyfer y posibilrwydd o syrthio i’r dŵr. Trwy amlygu’r mater hwn a gwneud yn siŵr bod negeseuon diogelwch yn eu cyrraedd rydym yn gobeithio lleihau nifer y marwolaethau diangen hyn."

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cyhoeddi’r cyngor canlynol:

  • Os ydych chi’n mynd am dro neu’n rhedeg ger dŵr cadwch at lwybrau addas a pheidiwch â mynd yn agos at ymyl y dŵr
  • Gwnewch yn siŵr bod yr amodau’n ddiogel - ceisiwch osgoi rhedeg neu gerdded yn ymyl dŵr yn y tywyllwch, os ydi’r tir yn llithrig neu os ydi’r tywydd yn wael
  • Os ydych chi wedi bod yn yfed peidiwch â mynd i mewn i’r dŵr, ceisiwch osgoi cerdded ar eich pen eich hun a cheisiwch osgoi llwybrau sy’n agos at ddŵr
  • Peidiwch byth â mynd i mewn i’r dŵr i geisio helpu person neu anifail - ffoniwch 999 bob amser a defnyddiwch offer achub dŵr os oes offer gerllaw
  • Os ydych chi’n treulio amser ger dŵr - un ai adref neu dramor - gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gyfarwydd â’r wybodaeth diogelwch lleol a’ch bod yn goruchwylio’ch plant.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen